Mae busnesau bach yn galw am dalebau trosglwyddo wrth i drafodaethau Brexit rhwng Llywodraeth Prydain a’r Undeb Ewropeaidd ailddechrau heddiw (dydd Llun, Medi 7).
Daw’r alwad wrth i adroddiadau awgrymu y gallai gweinidogion gefnu ar y Bil Ymadael a throi at ddeddfwriaeth newydd a fyddai’n anwybyddu rhannau helaeth o’r ddeddfwriaeth flaenorol.
Mae pryderon y gallai hynny arwain at broblemau wrth geisio cytundebau masnach ar ôl ymadawiad Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.
“Bydd y cyfnod trosglwyddo’n dod i ben cyn bo’ hir ond does gan fusnesau bach sy’n cynrychioli 99% o’n cymuned fusnes ddim syniad clir o beth y byddan nhw’n trosglwyddo iddo,” meddai Mike Cherry, Cadeirydd Cenedlaethol Ffederasiwn y Busnesau Bach.
“Mae’r economi mewn sefyllfa hollol wahanol o’i gymharu â’r tro diwethaf cawsom rybudd i baratoi am brexit heb gytundeb.
“Mae’n rhaid i’r trafodaethau sicrhau cytundeb sy’n gweithio i fusnesau bach ar frys.
“Gyda busnesau bach wedi bod yn ceisio ymdopi ag effaith y coronafeirws dros y chwe mis diwethaf, mae’r Llywodraeth angen darparu cymorth ariannol sylweddol i helpu gyda pharatoadau trosglwyddo.
“Byddai talebau trosglwyddo yn ffordd gall o weithredu: gosod symiau all gael eu gwario ar arbenigedd, technoleg a hyfforddiant fydd yn esmwytho perthynas newydd busnesau bach gyda’r Undeb Ewropeaidd.”