India sydd â’r ail nifer fwyaf o achosion o’r coronafeirws yn unman yn y byd erbyn hyn, gyda mwy na 4.2m o bobol wedi cael eu heintio.
Cafodd 90,802 o achosion newydd eu hadrodd dros y 24 awr diwethaf, sy’n mynd â’r cyfanswm y tu hwnt i Frasil, ac roedd 1,016 o farwolaethau sy’n mynd â’r cyfanswm hwnnw i 71,642 – y trydydd nifer fwyaf yn y byd.
Dim ond yr Unol Daleithiau sydd â mwy o achosion erbyn hyn.
Yn India y bu’r cynnydd dyddiol mwyaf yn nifer yr heintiadau ers bron i fis bellach.
Er gwaetha’r cynnydd yn y ffigurau, yn enwedig mewn trefi a phentrefi bach, mae Llywodraeth India yn parhau i lacio’r cyfyngiadau wrth geisio adfer yr economi.
Mae bron i 60% o achosion yn gysylltiedig â thaleithiau Andhra Pradesh, Tamil Nadu, Karnataka, Maharashtra ac Uttar Pradesh.
Yn Delhi Newydd, mae disgwyl i’r achosion gynyddu eto wrth i wasanaeth trenau’r ddinas gael ei ailgyflwyno.
Mae gan India gyfradd wella o 77.3%, ac mae cyfradd farwolaethau’r wlad wedi gostwng i ryw 1.72%.