Mae Plaid Cymru wedi annog Llywodraeth Cymru i beidio â chydweithredu â San Steffan ar Ddeddf y Farchnad Fewnol, sydd wedi cael ei disgrifio fel ymgais i gipio pwerau.

Mae disgwyl i Ddeddf y Farchnad Fewnol gael ei chyhoeddi yn ddiweddarach yr wythnos hon, ac fe fydd yn galluogi Llywodraeth Prydain i benderfynu sut mae’r gwledydd datganoledig yn rhyngweithio gyda nhw ar ôl Brexit.

Mewn llythyr at Jeremy Miles, Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, mae Helen Mary Jones yn dweud bod Llywodraeth Prydain yn ymddwyn â “bwriadau gwael.”

Yn yr Alban, mae’r Gweinidog Cyfansoddiad Mike Russell wedi dweud na fydd “Llywodraeth yr Alban yn gallu nac yn derbyn cynlluniau o’r fath, na chwaith yn cydweithredu â nhw”.

Helen Mary Jones

“Mae’n glir bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymddwyn â bwriadau gwael, ac o ystyried hyd yr ymgynghoriad, bydd y ddeddfwriaeth yn unol â’r cynigion niweidiol sydd yn y papur gwyn,” meddai Helen Mary Jones yn ei llythyr at Jeremy Miles.

“Mae hyn yn ymgais i gipio pwerau. Mae mor syml â hynny.

“Gwnewch yr hyn sydd yn iawn dros bobol Cymru.

“Gwnewch yr hyn sydd yn iawn dros ddatganoli.

“Sefwch i fyny i San Steffan a mynnwch fod Cymru’n cael y pŵer sydd ei angen i allu sefyll ar ei thraed ei hun.”