Mae dyn 27 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio dyn 23 oed yn ystod cyfres o ymosodiadau â chyllell yn Birmingham.

Cafodd ei arestio yn ardal Selly Oak y ddinas am oddeutu 4 o’r gloch fore heddiw (dydd Llun, Medi 7).

Mae’n wynebu cyhuddiad pellach o geisio llofruddio saith o bobol.

Mae dyn 19 oed a dynes 32 oed yn dal mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Mae’r heddlu’n parhau i apelio am dystion.