Mae ail deiffŵn wedi taro Japan gan ddinistrio adeiladau, bwrw cyflenwadau trydan hanner miliwn o gartrefi ac anafu 20 o bobol ar ynysoedd deheuol y wlad cyn mynd yn ei flaen i Dde Corea.
Mae arbenigwyr tywydd yn Ne Corea yn rhybuddio am law trwm iawn a gwyntoedd cryfion a allai gyrraedd 78m.y.a.
Bu’n rhaid i geir geisio gadael y ffyrdd mewn llifogydd mewn sawl dinas.
Cafodd un person yn ninas Busan anafiadau ar ôl i gar foelyd.
Mae o leiaf 318 o hediadau i mewn ac allan o dalaith Jeju a llefydd eraill eu canslo, a bu’n rhaid cau ffyrdd a phontydd wrth i gychod gael eu symud i lefydd diogel.
Bu’n rhaid hefyd symud 1,600 o bobol o’u cartefi yn sgil pryderon am dirlithriadau.
Mae o leiaf 20 o bobol wedi’u hanafu yn Japan, gyda bron i hanner miliwn o gartrefi heb drydan.