Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo mwy na £2.3m i sicrhau bod gan bob disgybl mewn ysgolion uwchradd a lleoliadau addysg bellach orchuddion wyneb.

Daeth cadarnhad o’r arian gan Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Cymru.

Bydd £1.8m yn mynd i ysgolion uwchradd, tra bod lleoliadau addysg bellach yn derbyn £469,000.

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru’n argymell gwisgo gorchuddion wyneb lle nad yw’n bosib cymryd camau eraill neu os yw’n debygol na fyddai cymryd camau eraill yn llwyddo.

Gallai hyn gynnwys ardaloedd mewn ysgolion lle na fydd modd i bobol gadw pellter oddi wrth ei gilydd wrth ddod ynghyd.

“Mae’n bleser gennyf gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru wedi neilltuo mwy na £2.3m i ddarparu gorchuddion wyneb i bob disgybl o oedran ysgol uwchradd neu mewn lleoliadau addysg bellach,” meddai Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Cymru.

“Mae’n hanfodol bod plant a phobl ifanc, rhieni a’r gweithlu addysg yn teimlo’n hyderus bod yr holl fesurau’n cael eu cymryd i’w hamddiffyn wrth iddynt ddychwelyd i ysgolion a cholegau.

“Rydym hefyd wedi diweddaru ein canllawiau gweithredol ar gyfer ysgolion a lleoliadau AB yn ddiweddar sy’n ei gwneud yn ofynnol i leoliadau ac awdurdodau lleol gynnal asesiadau risg o’u safleoedd i benderfynu a ddylid argymell gorchuddion wynebau ar gyfer eu staff a’u pobl ifanc mewn mannau cymunedol – mae hyn yn cynnwys cludiant i’r ysgol a’r coleg.”

Ymateb

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi ymateb i’r cyhoeddiad.

“Mae ysgolion ac awdurdodau lleol wedi cynllunio’n helaeth dros yr haf i baratoi ar gyfer ailagor ysgolion a lliniaru risgiau COVID 19 i fyfyrwyr, athrawon a staff cymorth,” meddai llefarydd.

“Mae’r cynlluniau hyn yn cynnwys y gwasanaeth profi, olrhain a diogelu a threfniadau i ddarparu staff y mae angen iddynt hunanynysu lle bo hynny’n bosibl neu drefnu darpariaeth amgen.”

Cafwyd ymateb hefyd gan GolegauCymru, a goresawodd y cyllid ychwanegol ond gan nodi na ddylai dynnu oddi ar ddiffygion ariannol sy’n parhau yn y sector.

Dywedodd Cadeirydd Fforwm Cyfarwyddwyr Ariannol ColegauCymru, Mark Jones:

“Er ein bod yn croesawu cyhoeddiad heddiw, mae ein haelodau yn parhau i bryderu am y pwysau ariannol sy’n wynebu’r sector wrth inni barhau i ddarparu ar gyfer tirwedd ddysgu newidiol ôl-Covid. Bydd sylfaen ariannol gydnerth yn hanfodol i lwyddiant sefydliadau addysg bellach wrth symud ymlaen ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru i roi sicrwydd ariannol tymor hir i’r sector.”