Mae Janet Finch-Saunders, Aelod Ceidwadol o’r Senedd, wedi cyhuddo Gwrthryfel Difodiant o weithredu “y tu hwnt i ffiniau protest wleidyddol dderbyniol” wrth dargedu’r wasg dros y penwythnos.
Mae llefarydd Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig y blaid yn y Senedd yn dweud iddi wrthod cyfarfod â’r ymgyrchwyr gan ddweud eu bod nhw’n “eithafol a neo-ffasgaidd”.
“Mae eu gweithredoedd wrth dargedu’r wasg rydd y tu hwnt i ffiniau protest wleidyddol dderbyniol,” meddai.
“Mae eu gweithredoedd yn enghraifft beryglus o gasineb a bygythiadau nad oes lle ar ei gyfer mewn gwleidyddiaeth, a dw i hefyd yn awgyrmu nad yw holl ymgeiswyr y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer etholiadau Senedd Cymru y flwyddyn nesaf yn cyfarfod â nhw chwaith.”
Mae’n dweud bod ganddi gefnogaeth yr arweinydd Paul Davies, gan ddweud ei fod e wedi cyfarfod â nhw yn y gorffennol “ond ni fydd yn gwneud eto”.
Cyfarfodydd
Mae’n dweud ymhellach y bydd hi’n gofyn am gael gweld manylion tri chyfarfod rhwng Gwrthryfel Difodiant a Llywodraeth Cymru.
Mae’n cyfeirio at sylwadau Roger Hallam, un o drefnwyr Gwrthryfel Difodiant, y dylai pobol fusnes a llywodraethau gael “bwled yn y pen”.
Mae’n dweud y bydd hi’n gofyn am fanylion ynghylch pwy sydd wedi mynychu cyfarfodydd ag ymgyrchwyr yn y gorffennol.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru ddilyn esiampl y Ceidwadwyr Cymreig a thorri pob cyswllt â Gwrthryfel Difodiant fel sefydliad sydd wedi ymrwymo i ddod â therfyn i wasg rydd, bygwth unigolion a bygwth trais a marwolaeth.
Mae’n dweud y dylid trin Gwrthryfel Difodiant fel mudiad “peryglus a throseddol”.