Mae gwerthiant gwirodydd di-alcohol wedi cynyddu 30% flwyddyn ar ôl blwyddyn yn ôl ymchwil gan Bax Batonics, sy’n cynhyrchu gwirodydd di-alcohol.
Ac mae data gan Nielsen, cwmni gwybodaeth ac ymchwil, yn dangos bod cwsmeriaid wedi gwario £5.4m ar 171,000 litr o wirodydd di-alcohol eleni, tra bod gwerthiant wedi codi 504% rhwng 2014 a 2019.
Gyda refeniw yn tyfu £11m y flwyddyn, mae disgwyl iddynt gyrraedd £74m erbyn 2024.
Mae nifer y cynhyrchwyr wedi tyfu o ddim yn 2014 i 70 yn 2019, a gallai godi i 140 erbyn 2024.
Daw’r cynnydd wrth i genedlaethau iau yfed llai o alcohol tra bod pobol hŷn yn yfed yn fwy cymhedrol.
“Fel gyda chwrw crefft, mae gan gwsmeriaid chwaeth fwy soffistigedig nag y mae nifer yn sylweddoli, ac rydym yn disgwyl gweld cefnogaeth gref i gynhyrchwyr llai er bod brandiau diodydd mawr yn ceisio gwthio i mewn i’r farchnad,” meddai Chris Bax, prif ddistyllwr Bax Botanics.