Mae papur bro Clebran yn ardal y Preselau wedi derbyn £7,000 o Gronfa’r Loteri Genedlaethol er mwyn hyrwyddo a datblygu.
Cyhoeddodd y papur misol ei 500fed rhifyn yn ddiweddar, ond mae gostyngiad wedi bod mewn gwerthiant a nifer y darllenwyr dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae Hefin Wyn, golygydd dros dro’r papur, yn dweud bod y cais wedi argyhoeddi Cronfa Gymunedol y Loteri gan fod papur bro yn adnodd cymunedol ddylai dderbyn mwy o gefnogaeth.
Templed ar gyfer y dyfodol
“Bydd cyfres o erthyglau yn cael eu cyhoeddi yn cymharu ansawdd bywyd cyfoes gyda’r hyn oedd 45 mlynedd nôl pan lansiwyd y papur sy’n cael ei gynnal yn wirfoddol,” meddai.
“Ymhlith y pynciau a wyntyllir bydd amaeth, twristiaeth, diwylliant, addysg, Anghydffurfiaeth ac wrth gwrs yr iaith Gymraeg ei hun.
“Bydd y rhain yn darparu templed ar gyfer dyfodol Clebran fel cyhoeddiad print a digidol.”
Bydd cyfres o gyfarfodydd yn cael eu cynnal er mwyn denu cefnogaeth i Clebran, gyda’r cyntaf yng Nghanolfan Hermon nos Lun, Medi 21.