Mae enwau’r 22 o bobol fu farw yn y ffrwydrad yn Arena Manceinion wedi cael eu datgan ar ddechrau’r ymchwiliad cyhoeddus i’r digwyddiad.

Cawson nhw eu llofruddio yn yr ymosodiad gan Salman Abedi ar Fai 22, 2017.

Roedd munud o dawelwch er cof amdanyn nhw ar ddechrau’r gwrandawiad.

Bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar y digwyddiadau cyn, yn ystod ac ar ôl y ffrwydrad ar ddiwedd cyngerdd Ariana Grande.

Fe wnaeth Salman Abedi ffrwydro bag oedd yn cynnwys bom.

Plentyn wyth oed oedd yr ieuengaf i farw yn y digwyddiad.

Cafodd Hashem Abedi – brawd 23 oed Salman – ei garcharu am o leiaf 55 mlynedd fis diwethaf am ei ran yn y digwyddiad.

Y gwrandawiad

Bydd elfennau o’r gwrandawiad yn cael eu cynnal y tu ôl i ddrysau caëedig er mwyn osgoi ymosodiadau tebyg yn y dyfodol, meddai Syr John Saunders, arweinydd yr ymchwiliad.

Mae disgwyl i swyddog MI5 roi tystiolaeth i’r gwrandawiad heddiw (dydd Llun, Medi 7).

Bydd y gwrandawiad yn cael ei gynnal mewn dwy ystafell – y naill ym Manceinion a’r llall yn Salford – er mwyn cadw pellter cymdeithasol.

Mae disgwyl i rai o’r teuluoedd fod mewn ystafell ar wahân yn ystod y gwrandawiad, a newyddiadurwyr mewn ystafell arall eto.

Dros y tridiau nesaf, bydd y dystiolaeth fydd i’w chlywed yn cael ei hamlinellu, ynghyd â’r prif bynciau trafod yn ystod y gwrandawiad, fydd yn para tan y gwanwyn.

Bydd y gwrandawiad yn clywed am y rhai fu farw ac a gafodd eu hanafu ddydd Iau (Medi 10).

Bydd yn clywed am hanes radicaleiddio Salman Abedi, ymateb y gwasanaethau brys, cynllwynio’r ymosodiad a’r hyn oedd yn hysbys am Salman Abedi cyn yr ymosodiad a allai fod wedi osgoi’r digwyddiad.

Bydd adroddiad ac argymhellion yn dilyn y gwrandawiad.