Mae gofyn i 30 o blant Blwyddyn 7 yn Ysgol Bro Edern yng Nghaerdydd ynysu am 14 diwrnod ar ôl i ddisgybl brofi’n bositif ar gyfer y coronafeirws.

Yn ôl y prifathro Iwan Pritchard, fe wnaeth yr ysgol “weithredu’n gyflym” ar ôl ymgynghori â Iechyd Cyhoeddus Cymru.

“Fel rhagofal, mae glanhau ychwanegol wedi cael ei gwblhau ar ben y cynllun glanhau dyddiol sydd gennym ar waith,” meddai.

“Yn sgil y gweithdrefnau sydd gyda ni yn eu lle, gan gyfyngu ar y cyswllt rhwng gwahanol ddosbarthiadau a chadw cofnod o gynlluniau seddi pob gwers, rydym wedi gallu cyfyngu ar nifer y disgyblion y mae angen iddyn nhw ynysu a does dim angen i rieni na disgyblion nad ydyn ni wedi cysylltu â nhw ynysu na phoeni’n ddiangen.

“O gadw at y rheol pellter o ddwy fetr neu o fod wedi gwisgo gorchudd wyneb os nad oedd hynny’n bosib, does dim angen i unrhyw aelod o staff yr ysgol ynysu.”