Mae ystadegau’n dangos i 2,307,000 o brydau bwyd ‘Bwyta Allan i Helpu Allan’ gael eu hawlio yng Nghymru.
Daeth y cynllun poblogaidd, oedd yn gostwng pris bwyta allan i helpu’r diwydiant lletygarwch i ymdopi â phandemig y coronafeirws, i ben ddiwedd mis Awst.
Cafodd 2,957 o safleoedd yng Nghymru eu cofrestru, ac mae gan fusnesau tan ddiwedd mis Medi i hawlio arian yn ôl.
Hyd yma, mae cyfanswm y gostyngiad a gafodd ei hawlio yng Nghymru yn £13,056,000.
‘Rhoi hyder i fusnesau a chwsmeriaid’
“Mae’r cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan wedi bod yn hynod bwysig o ran rhoi hyder i fusnesau a chwsmeriaid i ddychwelyd i fwynhau’r gorau sydd gan Gymru i’w gynnig,” meddai Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
“Mae ciniawyr ledled Cymru wedi mwynhau mwy na dwy filiwn o brydau am bris gostyngol haf yma tra’n diogelu swyddi miloedd o bobl sy’n gweithio yn ein sector lletygarwch gwych.”
Er bod y cynllun bellach wedi dod i ben, mae nifer o fusnesau wedi mynd ati i greu eu cynlluniau eu hunain.
Roedd Ffederasiwn Busnesau Bach hefyd wedi galw am ymestyn y cynllun.
Diogelu 1.8 miliwn o swyddi
Yn ôl Rishi Sunak, Canghellor San Steffan, mae’r cynllun wedi diogelu 1.8m o swyddi yn y sector lletygarwch.
“O’r cychwyn cyntaf, ein cenhadaeth fu diogelu swyddi,” meddai.
“I wneud hyn, roedd angen i ni fod yn greadigol, yn ddewr a rhoi cynnig ar bethau nad oes yr un llywodraeth erioed wedi’u gwneud o’r blaen.
“Mae’r ffigurau heddiw yn dal i ddangos bod Bwyta Allan i Helpu Allan wedi bod yn llwyddiant.
“Rwyf am ddiolch i bawb, o berchnogion bwytai i weinyddion, cogyddion a chiniawyr, am ei gofleidio a helpu i yrru ein hadferiad economaidd.
“Un rhan yn unig o’n Cynllun Swyddi yw’r cynllun hwn, a byddwn yn parhau i ddiogelu, cefnogi a chreu swyddi i sicrhau ein bod yn dod yn ôl yn gryfach fel cenedl.”
Hawliodd 84,700 o sefydliadau ar draws Gwledydd Prydain 130,000 o brydau gwerth £522m.
Cafodd dros chwe miliwn o brydau bwyd eu hawlio yn yr Alban, dros ddwy filiwn yng Ngogledd Iwerddon, a dros 51 miliwn yn Lloegr.