Gallai deddfwriaeth newydd Llywodraeth San Steffan achosi i’r Deyrnas Unedig “gwympo’n ddarnau”, yn ôl Carwyn Jones, cyn-Brif Weinidog Cymru.

Mae Llywodraeth San Steffan yn bwriadu creu deddfwriaeth a fyddai’n caniatáu iddyn nhw ddiystyru rhannau o’r cytundeb i adael yr Undeb Ewropeaidd.

‘Dydy’r Deyrnas Unedig ddim yn gweithio fel y mae’

Ond wrth siarad fore heddiw (dydd Llun, Medi 7), mae Carwyn Jones wedi ymateb yn chwyrn i’r sefyllfa.

“Mae’r undeb fel y mae hi wedi torri,” meddai Carwyn Jones mewn cyfweliad ar The Emma Barnett Show ar BBC Radio 5 Live.

“Ddim yr undeb yn gyffredinol ond yr undeb gyfredol – y syniad bod grym i gyd yn dod o Lundain, dyw’r syniadau hyn ddim yn gweithio yn yr unfed ganrif ar hugain.

“Dydy cefnogaeth i annibyniaeth yng Nghymru erioed wedi bod yn uwch.

“Dwi’n difaru hynny – dwi ddim eisiau gweld y Deyrnas Unedig yn chwalu – ond dydy’r Deyrnas Unedig ddim yn gweithio fel y mae, ond gallwn ni wneud iddi weithio.

“Dyw’r Deyrnas Unedig ddim yn gan mlwydd oed eto – mae’r math o densiynau gallai Brexit eu rhyddhau ar y Deyrnas Unedig fod yn beryglus iawn i’r DU.

“Os bydd yr Alban yn gadael, dyw beth sydd ar ôl ddim yn gweithio.

“Os yw pobl yn dechrau meddwl nad oes pwrpas i’r DU, yna fyddan nhw ddim yn cefnogi’r undeb.

“Mae hyn yn rhywbeth i’w osgoi, mae angen newid i wneud yn siŵr ein bod ni gyd yn ffynnu gyda’n gilydd.”

‘Chwalu’r broses heddwch’

Er mwyn atal ‘ffin galed’ rhwng Iwerddon a Gogledd Iwerddon, roedd disgwyl i Ogledd Iwerddon gadw at rai o reolau’r Undeb Ewropeaidd, a hynny ar ôl i’r cyfnod pontio ddod i ben ddiwedd mis Rhagfyr.

Mae elfennau o’r ddeddfwriaeth newydd yn mynd yn groes i hyn.

“Mae hyn yn wallgo, mae’n chwalu’r broses heddwch â Gogledd Iwerddon – bydd siŵr o arwain at uno Iwerddon,” meddai’r cyn-brif weinidog.

“Os na allwn ni gytuno bargen gyda phobol ry’n ni wedi bod yn masnachu gyda nhw ers 50 mlynedd, does dim gobaith ’da ni gytuno bargen gyda marchnadoedd eraill dros y byd – fyddan nhw ddim yn ein cymryd ni o ddifri.

“Os bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwneud smonach o hyn, bydd y Deyrnas Unedig ei hun yn dechrau cwympo’n ddarnau.”

‘Union jackery’

Pwysleisiodd Carwyn Jones nad oedd yn awgrymu y dylid cael refferendwm arall, ond awgrymodd fod pobol wedi cael eu “camarwain” yn ystod y refferendwm yn 2016.

“Bydd yr Undeb Ewropeaidd yn siomedig i’n gweld ni’n gadael, wrth gwrs – ond dydyn nhw ddim yn mynd i golli cwsg am hynny – ni sy’n mynd i golli allan.

“Dwi’n galw hyn yn union jackery… beth am gael trafodaeth aeddfed rhwng oedolion yn lle trio sgorio pwyntiau?

“Mae pobol y Deyrnas Unedig a phobol Ewrop yn haeddu gwell na hyn.”

Mae Michel Barnier, prif drafodwr yr Undeb Ewropeaidd, wedi gofyn am eglurhad am gynlluniau’r Deyrnas Unedig.