Mae pobol Caerffili yn teimlo mai ‘cosb’ yw’r cyfyngiadau diweddaraf, yn ôl cynghorydd lleol.
Ar ddechrau’r wythnos hon cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bod cyfyngiadau llymach yn cael eu cyflwyno yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Daeth hyn yn sgil naid mewn achosion covid-19, a bellach nid oes modd i bobol adael yr ardal honno neu ymweld â hi (mae yna ambell eithriad).
Yn ôl Lyndon John Binding, Cynghorydd Cwm Aber, mae pobol ei ward yn amau a wnaeth yr awdurdod lleol ddigon i osgoi’r sefyllfa.
“Mae llawer o bobol leol yn gofyn: ‘Pam ein bod ni’n cael ein cosbi, a pham nad oedd y cyngor yn gorfodi’r rheolau yn y lle cyntaf?” meddai’r cynghorydd Plaid Cymru wrth golwg360.
“Maen nhw hefyd yn gofyn: ‘Ydy’r cyngor wedi bod yn cynnal gwiriadau yn y [tafarndai ac ati]?’”
Y Blaid Lafur sydd mewn grym ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Gofidio am fusnesau lleol
Mae’r cynghorydd sir yn teimlo bod tafarndai lleol wedi trio’u gorau glas i rwystro lledaeniad yr haint.
Ac mae’n ceryddu Llywodraeth Cymru am beidio cyhoeddi arian cymorth i’r sir i gyd-fynd â’r cyfyngiadau newydd, ac i helpu busnesau ardal Caerffili.
“Dw i’n gwybod bod sefydliadau lleol wedi bod yn gweithio’n galed iawn i gadw at y rheolau, ac maen nhw wedi bod yn llym iawn wrth gadw at y rheiny,” meddai.
“Fy mhryder i, fel cynghorydd lleol, yw bod y sefydliadau lleol – nid jest tafarndai a siopau anhanfodol – yn mynd i ddiweddu lan yn dioddef os byddwn yn symud at gyfyngiadau llymach fyth.
“A dyw Llywodraeth Cymru ddim wedi cynnig pecyn cymorth [ochr yn ochr â’r cyfyngiadau],” meddai wedyn. “Os nad ydym yn cynnig y cymorth yna, beth sy’n mynd i ddigwydd [i fusnesau lleol]?”
Cyfathrebu
Mae hefyd yn teimlo bod y cyhoeddiad y cyfyngiadau wedi’i “amseru’n wael”, ac mae’n teimlo nad yw gwybodaeth wedi’i rhannu’n effeithlon.
“Dyw’r cyfathrebu rhwng y cyngor, a ni y cynghorwyr, ddim wedi bod yn grêt,” meddai. “A dw i wedi codi hyn â’r Prif Weithredwr. Mae gen i bryderon yn hyn o beth.
“Dydyn nhw ddim yn pasio’r wybodaeth ymlaen o Lywodraeth Cymru yn ddigon cyflym. Ac mi fydda’ i yn codi cwestiynau am hyn.”
Mae’n dweud bod yna gyfarfod cyngor llawn arbennig brynhawn heddiw.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:
“Rydym wedi darparu gwerth £1.7 biliwn o gymorth i fusnesau lleol ar draws Cymru ers mis Mawrth a byddwn yn parhau i adolygu anghenion busnesau lleol fel rhan o’n hymateb i’r coronafeirws, gan gynnwys y rhai mewn ardaloedd o dan gyfyngiadau lleol.”