Mae’r Alban wedi llymhau ei rheolau coronafeirws ymhellach yn sgil camau tebyg yn Lloegr.

Bellach dim ond chwe pherson o ddwy aelwyd sydd yn cael ymgynnull naill ai tu fewn neu du allan.

Yn ôl Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, bydd y rheolau newydd yn dod i rym ar dydd Llun ac mi fydd ambell eithriad – gan gynnwys addoldai, a chwaraeon.

Yn y gorffennol roedd modd i wyth berson o dair aelwyd ymgynnull tu fewn, a 15 person o bum aelwyd ymgynnull y tu allan.

Lledaeniad yn “cyflymu”

Yn siarad yn ystod sesiwn holi’r Prif Weinidog dywedodd Nicola Sturgeon bod lledaeniad y feirws yn “cyflymu eto”. Mae arbenigwyr yn dyfalu y gallai’r gyfradd-R fod mor uchel ag 1.5 yno.

Daw’r cam wedi i Lywodraeth San Steffan gyhoeddi na fydd modd i bobol gwrdd mewn grwpiau o fwy na chwech yn Lloegr o dydd Llun ymlaen.