Mae awdurdodau lleol yn annog rhieni i beidio ymgasglu y tu allan i gatiau’r ysgol wrth ollwng a chodi eu plant ar ddechrau a diwedd y diwrnod ysgol.

Daw hyn ar ôl i athrawon yng Ngheredigion a Phowys rannu eu pryderon gyda’r Cynghorau Sir.

‘Ystyried eu cyfrifoldeb’

“Rydym yn deall efallai nad yw pobl wedi gweld ei gilydd ers tro, ond gofynnwn iddynt ystyried eu cyfrifoldeb i gadw pellter cymdeithasol er mwyn lleihau’r risg o ledaenu’r coronafeirws”, meddai llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion.

“Mae ysgolion yng Ngheredigion wedi gweithio’n galed i roi mesurau ar waith i sicrhau bod yr holl ddisgyblion a staff yn ddiogel.

“Felly, gofynnwn i bob rhiant a gofalwr gefnogi’r ymdrechion hyn i leihau unrhyw risg o ledaenu’r coronafeirws.”

‘Erfyn ar rieni i ddilyn y canllawiau’

“Rydym wedi derbyn sawl adroddiad gan benaethiaid fod rhieni’n casglu ger gatiau’r ysgol cyn i’r ysgol agor ac ar ddiwedd y dydd”, meddai’r Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar Addysg ac Eiddo Cyngor Sir Powys.

“Rydym yn gwybod fod nifer o ddisgyblion wedi dechrau’r ysgol gynradd ac uwchradd am y tro cyntaf ac mae plant yn gyffrous, ond rwy’n erfyn ar rieni i gofio am ganllawiau’r coronafeirws ac i weithiogyda’r cyngor a’r ysgol i gadw pawb yn ddiogel.

“Byddai’n drueni pe bai’r gwaith hwn yn ofer os bydd rhieni a pherthnasau hŷn yn anwybyddu rheolau cadw pellter cymdeithasol wrth gatiau’r ysgol.”

Profi, Olrhain a Diogelu

Mae penaethiaid ym Mhowys hefyd wedi mynegi pryderon fod rhieni’n cysylltu ag ysgolion ac yn gofyn iddynt gadarnhau a oes aelod o’r ysgol wedi cael prawf positif o’r coronafeirws.

“Rydym yn deall bod rhai rhieni’n bryderus ac am ddiogelu eu plant, ond mae cysylltu ag ysgol yn gofyn am wybodaeth am unigolyn yn yr hinsawdd sydd ohoni’n beth amhriodol iawn,” meddai’r Cynghorydd.

“Nid gwaith penaethiaid yw rhoi gwybod i rieni am unrhyw achos posibl o’r coronafeirws yn yr ysgol. Y rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu sy’n gyfrifol am hyn.”

Ers i ysgolion ail agor wythnos diwethaf mae sawl ysgol yng Nghymru eisoes wedi gorfod gofyn i ddisgyblion hunanynysu ar ôl profion positif.