Mae yna ddryswch ynglŷn â phwy yw arweinydd newydd UKIP, ar ôl i’r cyn-arweinydd, Freddy Vachha, gwestiynu’r dewis i enwi Neil Hamilton yn bennaeth y blaid.
Cafodd Freddy Vachha ei ethol yn arweinydd ym mis Mehefin, ond mae gwefan y blaid bellach yn rhestru Neil Hamilton yn arweinydd dros dro.
Neil Hamilton yw’r seithfed person i arwain UKIP ers i Nigel Farage gamu o’r swydd yn dilyn refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd yn 2016.
Er ei bod hi’n parhau i fod yn aneglur pam y cafodd Freddy Vachha ei ddiswyddo, mae’r cyn-arweinydd yn dadlau nad oedd gan Ben Walker, cadeirydd y blaid, yr hawl i’w ddiswyddo na chwaith i benodi Neil Hamilton yn ei le.
Neil Hamilton yw Aelod o’r Senedd Canolbarth a Gorllewin Cymru ers 2016, a fe hefyd yw arweinydd a llefarydd UKIP yng Nghymru.
“Dim ond trwy ymddiswyddiad, marwolaeth, dilyn proses ddemocrataidd, amgylchiadau eithriadol, neu gan y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol etholedig y gellir diswyddo arweinydd UKIP,” meddai Freddy Vachha.
“Does gan gadeirydd y blaid ddim y grym cyfreithiol fel y cyfryw i gael gwared ar yr arweinydd.
“Doedd gan Mr Walker ddim y grym i gael gwared â mi. Hyd yn oed os mai fe oedd cadeirydd y blaid ar y pryd – ac nid fe oedd.”
Ymateb UKIP
Dywed UKIP fod cwyn yn erbyn Freddy Vachha yn atal ei aelodaeth o’r blaid, ac felly hefyd yn atal ei arweinyddiaeth.
Cadarnhaodd y blaid fod Neil Hamilton wedi cael ei benodi dros dro nes y byddai cwyn ffurfiol yn erbyn Freddy Vachha yn cael ei datrys.