Mae adroddiad gan Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn galw am ymestyn y cynllun gwarchod swyddi i sicrhau dyfodol newyddiaduraeth yng Nghymru.
Cafodd yr adroddiad, sydd yn edrych ar effaith argyfwng Covid-19 ar newyddiaduraeth a’r cyfryngau lleol, ei gyhoeddi heddiw (dydd Llun, Medi 14).
Er bod y Pwyllgor yn cydnabod fod yna heriau cyn y pandemig, mae pryder y gallai Covid-19 gael effaith ddinistriol ar newyddiaduraeth a democratiaeth yng Nghymru yn yr tymor hir.
Mae’r pwyllgor wedi dod i’r casgliad na ddylid cymryd camau llym fel ailstrwythuro na chwtogi ar swyddi yn ystod cyfnod o argyfwng.
Yn lle hynny, mae am weld rhagor o gefnogaeth yn cael ei darparu i helpu’r sector i oroesi, gan gynnwys ymestyn cynllun ffyrlo Llywodraeth Prydain ac annog Llywodraeth Cymru i ddatblygu atebion hirdymor.
Mae disgwyl i’r cynllun ffyrlo ddod i ben ddiwedd mis Hydref.
‘Paradocs annerbyniol’
Eglura Helen Mary Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, ei “fod yn bwysicach nag erioed sicrhau bod gan bobol Cymru fynediad at newyddion sy’n gywir ac yn berthnasol iddynt”.
“Mae democratiaeth yn gofyn am wasg iachus i roi gwybodaeth i’r cyhoedd a chraffu ar barth y cyhoedd,” meddai.
“Mae’n baradocs annerbyniol, wrth i’r Senedd ennill rhagor o bwerau, fod newyddiaduraeth er budd y cyhoedd wedi encilio o Gymru.
“Felly, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau cadarnhaol ar frys i gefnogi newyddiaduraeth newyddion yng Nghymru, ac yn gobeithio trafod y mater hwn yn fanylach yn nhymor yr hydref.”
Gostyngiad yng ngweithlu Reach, Newsquest a’r BBC
Daw’r adroddiad wedi i undeb newyddiadurwyr yr NUJ gyhuddo cwmni Reach o gefnu ar newyddiaduraeth Gymreig.
Mae cwmni Reach, sy’n berchen ar Wales Online, y Western Mail, North Wales Live a’r Daily Post, yn torri oddeutu 12% o’i weithlu wrth geisio arbed hyd at £35m y flwyddyn.
Eglura Alan Edmunds, cyn-olygydd y Western Mail sydd bellach yn uwch-reolwr gyda Reach, wrth y pwyllgor fis diwethaf fod Cynllun Cadw Swyddi Llywodraeth Prydain wedi bod yn hanfodol i Media Wales yn ystod y cyfnod yma.
Dywedodd Reach wrth y pwyllgor fod swyddi tuag 20 o newyddiadurwyr yn debygol o gael eu colli yng Nghymru.
Mae Newsquest hefyd wedi cael gwared ar 25 o swyddi yng Nghymru, ac mae disgwyl i BBC Cymru gael gwared ar 60 o swyddi.
Argymhellion
Mae’r adroddiad yn cynnwys naw o argymhellion ynghylch yr hyn y dylai Llywodraeth Cymru ei wneud, sef:
- Annog Ofcom i sicrhau bod darlledwyr yn cynnal cywirdeb a didueddrwydd drwy adrodd ar bob un o bedair gwlad y Deyrnas Unedig yn gyfartal.
- Darparu asesiad i’r pwyllgor o ansawdd dosbarthu gwybodaeth am Covid-19 yn ystod y pandemig
- Annog Llywodraeth Prydain i lenwi’r bwlch o hyd at £8.5m yng nghyllid BBC Cymru.
- Annog Llywodraeth Prydain i barhau â’r Cynllun Cadw Swyddi y tu hwnt i fis Hydref.
- Annog busnesau i ddefnyddio Cynllun Cadw Swyddi Llywodraeth Prydain yn hytrach na dileu swyddi.
- Arwain sgyrsiau â chynrychiolwyr o’r sector i gael dealltwriaeth gliriach o’r cymorth uniongyrchol sydd ei angen a thrafod atebion heblaw am ddileu swyddi.
- Mynd ati i nodi’r newidiadau sydd eu hangen er mwyn galluogi hysbysiadau statudol i gael eu cyhoeddi gan ddarparwyr lleol iawn ac ar-lein.
- Darparu cymorth ariannol ar gyfer gorsafoedd radio cymunedol y mae eu perchnogion yng Nghymru ac sy’n drwyddedig ac yn gweithredu yng Nghymru.
- Cymryd camau cadarnhaol i annog newydd-ddyfodiaid i’r farchnad a chefnogi dulliau arloesol o ddarparu newyddiaduraeth newyddion yng Nghymru.