Mae’r Ceidwadwyr Cymreig eisiau cyflwyno Comisiynydd Diogelwch Cleifion pe baen nhw’n dod i rym yn etholiadau nesa’r Senedd y flwyddyn nesaf.

Yn ôl Andrew RT Davies, llefarydd iechyd y blaid, byddai’r Comisiynydd yn gyfrifol am fod yn gyswllt cleifion, yn eiriolwr sy’n gwrando ar gwynion a phryderon ac yn dwyn y system yng Nghymru i gyfri.

Fe ddaw ar ôl i’r Fonesig Julia Cumberlege wneud cyfres o argymhellion ar dair triniaeth sy’n arwain at nam mewn babanod sydd newydd eu geni, anawsterau dysgu a chymhlethdodau sy’n newid bywydau miloedd o fenywod.

‘Heb lais am yn rhy hir’

Yn ôl Andrew RT Davies, roedd y menywod hynny oedd wedi dioddef yn sgil y triniaethau wedi mynd “heb lais am yn rhy hir”.

“Roedd y Comisiynydd Diogelwch Cleifion yn argymhelliad allweddol yn adolygiad Cumberlege, oedd wedi datgelu tystiolaeth bryderus nifer o gleifion a gafodd eu niweidio gan eu triniaethau, gan gynnwys rhwyll y pelfis, a sut roedden nhw heb lais am yn rhy hir,” meddai.

“Mae gwrando ar gleifion yn allweddol wrth adnabod tueddiadau a chanfod materion cyn iddyn nhw fynd y tu hwnt i reolaeth, a dyna pam y byddai llywodraeth Geidwadol yn arwain y ffordd ac yn cyflwyno’r gwasanaeth hwn yng Nghymru.

“Dylai Gwasanaeth Ombwdsmon y Gwasanaeth Iechyd gael ei ddatblygu i wrando a chynnig eiriolaeth i bob claf a’r rhai sy’n datgelu gwybodaeth, i helpu i ffurfio a chyfeirio eu cwynion a’u hadroddiadau am bryderon diogelwch.”

Mae’n dweud bod y drefn bresennol “wedi creu system sy’n gymhleth, yn destun gofid ac yn un nad yw’n ymateb”.