Mae’r Arlywydd Donald Trump yn cael ei gyhuddo o beidio â chymryd cynhesu byd-eang o ddifri yn dilyn tanau gwyllt ar hyd arfordir gorllewinol yr Unol Daleithiau.
Er bod Llywodraethwyr y tair talaith sydd wedi eu heffeithio yn dweud mai canlyniad cynhesu byd-eang yw’r tanau, mae e o’r farn mai rheolaeth wael o goedwigoedd sydd ar fai.
Mae o leiaf 33 o bobol wedi marw – 10 yn Oregon, 22 yng Nghaliffornia ac un yn nhalaith Washington.
Wrth i ddiffoddwyr barhau i ymladd y tanau gwyllt, mae’r awdurdodau wedi rhybuddio y gall fod mwy o bobol ar goll a’i bod hi’n bosib y gallai nifer y marwolaethau godi.
Mae dros 40,000 o bobol eisoes wedi gorfod ffoi o’u cartrefi, ac mae 500,000 arall wedi cael eu rhybuddio i fod ar eu gwyliadwraeth i wneud hynny ar fyr rybudd os bydd angen.