Pryder mwyaf meddygon yng Nghymru yw’r risg y bydd ail don o’r coronafeirws yn ystod misoedd y gaeaf, yn ôl holiadur gan gymdeithas feddygol BMA Cymru.
Mae ail don o’r coronafeirws yn debygol neu yn debygol iawn yn y chwe mis nesaf, yn ôl 86% o’r meddygon a’r myfyrwyr meddygaeth a gafodd eu holi.
Y negeseuon dryslyd am reolau iechyd cyhoeddus, y diffyg arolygu a chadw at fesurau i reoli’r haint mewn llefydd cyhoeddus, a’r methiannau yn y system profi ac olrhain fydd yn bennaf gyfrifol am ail don, yn ôl y meddygon.
Ffactor arall sy’n cynyddu’r risg o ail don yw’r diffyg mynediad at safleoedd profi, maen nhw’n dweud.
Angen “negeseuon cyhoeddus cliriach”
Dywed meddygon mai system brofi ac olrhain lwyddiannus sy’n hawdd mynd ati ac sydd yn rhoi canlyniadau sydyn, yn ogystal ag ymatebion cyson, sydyn a threfnus i gynnydd lleol mewn nifer achosion, yw’r ffyrdd gorau i geisio osgoi ail don.
Pwysleisia’r meddygon fod angen rhoi negeseuon cliriach i’r cyhoedd, gan amlygu rheolau a chanllawiau ar gyfarfod pobol o wahanol aelwydydd.
“Mae canlyniadau’r holiadur yn arddangos pryderon pennaf meddygon yng Nghymru – ofnau sydd wedi codi o drin cleifion â Covid-19 yn ddyddiol, ac ymdopi ag effaith y feirws ar y Gwasanaeth Iechyd,” meddai Dr David Bailey, cadeirydd Cyngor BMA Cymru.
“Fel proffesiwn, ac fel cenedl, dydyn ni ddim am weld yr un fath yn digwydd eto, gydag ysbytai yn llawn o gleifion Covid-19, a nifer o bobol yn marw bob dydd.
“Wrth i gyfyngiadau lleol a chanllawiau newydd ddod i rym i leihau ymlediad y feirws, mae’n rhaid i ni weithio gyda’n gilydd i atal y feirws rhag cael gafael ar ein cymunedau unwaith eto.
“Ond er mwyn gwneud hyn, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru roi negeseuon cyhoeddus cliriach a rhoi mwy o negeseuon gweladwy yn esbonio’r canllawiau, ac mae’n rhaid cael trefn ar y system brofi ac olrhain unwaith ac am byth.”
“Pwynt pwysig yn y frwydr”
Dywed Dr Bailey nad oes modd disgwyl i bobol deithio am oriau i gael prawf.
“Rydym yn ymwybodol fod meddygon wedi cael trafferth ymdopi ag achosion o Covid-19 ar y cyd â’u gorchwylion arferol – mae rhestrau aros wedi cynyddu,” meddai.
“Mae ein haelodau wedi dweud wrthym eu bod yn poeni y bydd rhaid ymdopi â gofal arferol, ar y cyd ag ail don.
“Gyda chyfradd uchel o feddygon eisoes yn dweud eu bod dan bwysau, rydym yn pryderu’n fawr am effaith ail don ar gleifion ac ar y proffesiwn meddygol.
“Gydag achosion yn cynyddu a’r gaeaf ar droed, mae nawr yn bwynt pwysig yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws.
“Mae sicrhau na fydd ein hofnau yn troi’n realiti o fudd i ni gyd.”