Mae cynnig wedi cael ei wneud i brynu Clwb Pêl-droed Wrecsam, gyda’r addewid o fuddsoddi £2miliwn yn y clwb.

Bydd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam, sy’n berchen ar y clwb ers 2011, yn trafod y cynnig mewn cyfarfod cyffredinol arbennig ar Fedi 22.

Unigolion “adnabyddus”

Dywedodd y clwb bod cynnig wedi cael ei wneud gan “ddau unigolyn adnabyddus.”

Mae’r pâr, sydd ddim am gael eu henwi ar hyn o bryd, yn bwriadu buddsoddi £2miliwn i mewn i’r clwb ar unwaith.

Bydd y ddau unigolyn yn cael eu datgelu pan, neu os, fydd aelodau’r Ymddiriedolaeth yn rhoi caniatâd i’r bwrdd gynnal trafodaethau.

Megis dechrau

“Dim ond megis dechrau mae pethau ac ar hyn o bryd mae ein ffocws ar baratoi’r garfan ar gyfer gêm gyntaf y tymor,” meddai Cyfarwyddwr Wrecsam, Spencer Harris, wrth BBC Sport Wales.

“Mae yno nifer o bethau sydd angen eu trafod cyn i ni allu rhoi cynnig cadarn i’r cefnogwyr.

“O ran unrhyw arian sy’n cael ei fuddsoddi mewn i glwb pêl-droed ac yn enwedig ar y lefel yma, mae’n gwneud gwahaniaeth sylweddol.

“Er hynny, mae Dean Keates (rheolwr Wrecsam) wedi ymgynnull carfan dda felly rydym yn hyderus am y tymor lle bynnag mae yn mynd, ond mae buddsoddiad ariannol yn helpu busnesau.”

“Angen i’r clwb wthio ymlaen” – Bryn Law

Mae Bryn Law, cyn-sylwebydd Sky Sports, sy’n gefnogwr Wrecsam brwd ac yn un o’r cefnogwyr sy’n cyd-berchen ar y clwb, wedi ymateb i’r newyddion ar Trydar.

“Mae’n ddatblygiad calonogol oherwydd dw i’n credu y bydd y dyfodol yn anodd iawn i nifer o glybiau bach,” meddai.

“Heb os, bydd angen i’r sawl sy’n gwneud y cynnig yn cael eu craffu. Os yw popeth yn iawn, byddwn eisiau i’r clwb symud ymlaen.

“Mae angen i’r clwb wthio ymlaen nawr.”