Mae Lewis Hamilton wedi cyhuddo penaethiaid Fformiwla Un o beryglu bywydau gyrwyr yn dilyn gwrthdrawiad rhwng pedwar car yn Grand Prix Tuscany ddoe (dydd Sul, Medi 13).

Enillodd y Sais ras Grand Prix rhif 90 ei yrfa i ddod o fewn un fuddugoliaeth i record Michael Schumacher.

Ond roedd diweddglo’r ras yn danllyd wrth i Romain Grosjean gyhuddo Valtteri Bottas o fod eisiau ei ladd e.

Roedd Bottas ar y blaen pan fu’n rhaid iddo fe frecio’n sydyn ger y llinell derfyn ar ôl i’r car diogelwch orfod ddod allan i’r trac.

Wrth i Nicholas Latifi gyflymu, bu’n rhaid ido fe frecio’n sydyn wrth ailddechrau’r ras ar ôl y seithfed lap.

Aeth Antonio Giovinazzi i mewn i’w gefn, cyn i Carlos Sainz ei daro fe.

Cafodd Kevin Magnussen ei daro o’r tu ôl wedyn.

Cerddodd y tri i ffwrdd o’r digwyddiad, ond bu’n rhaid defnyddio’r faner goch i atal y ras am yr ail benwythnos yn olynol.

Er i Grosjean gyhuddo Bottas o achosi’r gwrthdrawiad, cafwyd e’n ddieuog ar ôl ymchwiliad, a chafodd 12 allan o 18 o yrwyr eu rhybuddio.

Mae Hamilton yn dweud nad Bottas oedd ar fai am y digwyddiad, gan ddweud bod ganddo fe fawr o ddewis ar ôl i oleuadau’r car diogelwch gael eu diffodd yn rhy hwyr er mwyn i’r cystadleuwyr gael dechrau rasio eto.

‘Pobol mewn perygl’

“Nid bai Valtteri oedd e o gwbl,” meddai’r Sais sy’n bencampwr byd.

“Maen nhw’n ceisio’i gwneud hi’n fwy cyffrous ond heddiw, fe wnaethon nhw beryglu pobol.

“Roedd hi dros y terfyn felly mae angen meddwl eto.

“Gall y rasys hyn fod yn ddiflas wrth i’r ceir ymestyn allan ac mae’r car diogelwch yn dod â phawb yn ôl at ei gilydd.

“Maen nhw’n ei gwneud hi yn NASCAR drwy’r amser er mwyn cadw’r ras yn gyffrous.

“Ond rhaid iddyn nhw ystyried yr ochr ddiogelwch.

“Doedd hi ddim yn ddiogel heddiw ac fe allech chi weld hynny’n dod.”