Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi galw ar y Deyrnas Unedig i fynd ati ar frys i addasu Bil drafft dadleuol a allai danseilio cytundeb Brexit.
Mae Brwsel wedi rhoi tan ddiwedd y mis i’r DU addasu Bil y Farchnad Fewnol, ac wedi dweud bod y berthynas rhwng y ddwy ochr wedi’i “niweidio”.
Mae Llywodraeth San Steffan wedi ymateb trwy ddweud bod ei senedd yn sofran, a’i bod yn medru pasio deddfau sydd yn mynd yn groes i gytundebau â gwledydd eraill.
Mae trafodaethau masnach rhwng prif negodwyr y ddwy ochr, Arglwydd Frost, i’r Deyrnas Unedig; a Michel Barnier, i Ewrop; yn parhau.
Asgwrn y gynnen
Yn sail i’r ffrae yma mae Bil y Farchnad Fewnol, sef mesur arfaethedig a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mercher.
Nod y Bil, yn ôl Llywodraeth San Steffan, yw sicrhau na fydd ffiniau mewnol y Deyrnas Unedig – rhwng Cymru a Lloegr e.e – yn rhwystro masnach oddi fewn i’r Deyrnas Unedig wedi Brexit.
Ac mae’n ddadleuol yn rhannol oherwydd y byddai’n ymyrryd â’r ‘Cytundeb Gadael’ – y cytundeb Brexit a arwyddwyd gan y ddwy ochr ym mis Ionawr.
Un mater penodol sy’n peri cryn ofid yw’r ffaith bod y Bil yn debygol o botsian â threfniadau Gogledd Iwerddon – rhan o’r Deyrnas Unedig sydd wedi esgor ar gryn ddadlau Brecsitaidd.
Mater arall sy’n destun beirniadaeth yw’r ffaith y byddai’r fath potsian yn torri cyfraith ryngwladol, gan danseilio’r ‘Cytundeb Gadael’.
Mae’r llywodraethau datganoledig hefyd wedi lleisio eu dicter am y Bil.
Barn Ewrop
Mae Dirprwy Lywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Maros Sefcovic, wedi dweud bod cadw at y ‘Cytundeb Gadael’ yn “rhwymedigaeth gyfreithiol”.
“Byddai mynd yn groes i amodau’r ‘Cytundeb Ymadael’ yn torri cyfraith ryngwladol,” meddai, “yn tanseilio ffydd, ac yn peryglu’r trafodaethau sydd yn mynd rhagddynt ynghylch perthynas [y ddwy ochr] yn y dyfodol.”
Ac mae wedi galw ar i Lywodraeth San Steffan addasu’r drafft Bil – fel nad yw’n tanseilio’r cytundeb – “cyn gynted ag sy’n bosib, os nad cyn diwedd y mis”.
‘Senedd sy’n sofran’
Mewn datganiad mae Llywodraeth San Steffan wedi dweud y byddai pasio’r Bil y Farchnad Fewnol ddim yn “anghyfansoddiadol”.
“Yng nghanol y sefyllfa anodd a hynod sydd ohoni, mae’n bwysig ein bod yn cofio egwyddor sylfaenol sofraniaeth seneddol,” meddai.
“Dan gyfraith ddomestig mae senedd yn sofran, ac mae’n medru pasio deddfau sydd yn groes i ymrwymiadau cytundebau’r Deyrnas Unedig.
“Fyddai’r senedd ddim yn gweithredu mewn modd anghyfansoddiadol trwy weithredu’r fath ddeddfwriaeth.”
Cyn-Brif Weinidogion yn beirniadu
Mae’r cyn-Brif Weinidogion Ceidwadol Syr John Major, a Theresa May, ill dau wedi beirniadu’r Bil arfaethedig, a’r posibiliad o dorri cyfraith ryngwladol.
“Am genedlaethau mae addewidion Prydain wedi cael eu derbyn gan gyfeillion a gelynion,” meddai John Major. “Dylai bod unrhyw lofnod ar unrhyw gytundeb yn gysegredig.”
“Dros y ganrif ddiwethaf mae ein cryfder milwrol wedi gwywo, ond mae ein haddewidion wedi parhau’n bwerus.
“Os gollwn ein henw da am gadw at addewidion, mi gollwn rywbeth gwerthfawr nad oes modd ei hadfer.”
Pryderon am Ogledd Iwerddon
Mae ffigyrau rhyngwladol wedi codi eu pryderon am oblygiadau’r ‘Bil Marchnad Fewnol’ i Ogledd Iwerddon – rhan o’r DU lle mae’r syniad o godi ffin galed yn tanio atgofion o orffennol treisgar.
Yn ôl Nansi Pelosi, Llefarydd Tŷ’r Cynrychiolwyr yn yr Unol Daleithiau, “does dim gobaith caneri” y bydd y Gyngres yn pasio dêl masnach â’r DU os bydd yn peryglu heddwch yng Ngogledd Iwerddon.
“Pa bynnag ffurf fydd arno, allwn ni ddim caniatáu i Brexit beryglu Cytundeb Gwener y Groglith [cytundeb heddwch Gogledd Iwerddon],” meddai.
Mae Taoiseach Iwerddon, Michael Martin, wedi rhannu ei ofidion bod gan y mesur “oblygiadau difrifol i Ogledd Iwerddon”.