Mae rhagor o wledydd a thiriogaethau wedi cael eu hategu at ‘restr cwarantin’ Llywodraeth Cymru.
Bellach mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd yn rhaid i deithwyr sy’n dychwelyd o Hwngari ac ynys Reunion dreulio pythefnos yn hunanynysu.
Bydd y rheolau yma yn dod i rym am 04.00 fore Sadwrn (12 Medi).
Mae llu o wledydd eraill eisoes ar ‘restr cwarantin’ Cymru gan gynnwys Sbaen, Ffrainc, Portiwgal, Awstria, Gwlad Belg, a deg o Ynysoedd Gwlad Groeg.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi bod Sweden wedi cael ei dynnu oddi ar y rhestr, felly ni fydd angen hunanynysu wrth ddychwelyd o’r wlad honno.