Merch wyth oed o Benybont ar Ogwr yw un o’r bobol ieuengaf yng ngwledydd Prydain i dderbyn braich brosthetig sydd am newid ei bywyd.
Ar ôl cael ei geni ag un llaw, roedd Tallulah Allen wedi erfyn ar ei rhieni i’w haddysgu o adref gan fod ei braich wahanol yn gwneud iddi deimlo’n hunanymwybodol.
Gofynnodd ei mam, Kim, am gymorth cwmni Open Bionics, sydd wedi ei leoli ym Mryste, ac arianwyd yr Hero Arm, a gostiodd £10,000, gan roddwr cefnogol.
“Gwahaniaeth mawr” i fywyd Tallulah
Meddai Ms Allen: “Roedd Tallulah yn sgipio allan o’r ysgol gan ddatgan fod pawb yn dweud fod ei braich yn ‘cool’.
“Roedd hi wastad yn ddihyder, ac yn cuddio pan oedd rhaid mynd allan, ond ar ôl cael y fraich does dim rhagor o guddio.”
“Dw i mor hapus drosti, rydym wedi crio llawer o ddagrau hapus,” dywedodd ei mam.
“Mae’r fraich wedi gwneud gwahaniaeth mawr i Tallulah.”
“Mae’n warthus nad oes modd cael braich sydd yn symud nac yn gallu gafael ar ddim gan yr NHS yn 2020, pan mae’r Hero Arms yn bodoli,” ychwanegodd Ms Allen.
Diolchodd Ms Allen, gan ddweud “mae Open Bionics a Paul, y rhoddwr, wedi rhoi bywyd newydd i Tallulah, ac ni allwn ddiolch digon iddynt.”
“Dwi wrth fy modd efo hi!”
“Dwi wrth fy modd efo hi! Roeddwn i’n gwybod ei bod ar gyfer pobol heb ddwylo, ac eich bod yn cael dewis y lliw, felly ro’n i eisiau un,” meddai Tallulah.
Mae’r fraich yn gweithio drwy ddilyn cyfarwyddiadau gan gyhyrau Tallulah.
Dywedodd Samantha Payne, cyd-sylfaenydd Open Bionics, fod rhaid i nifer o bobol yng ngwledydd Prydain godi pres i gael dyfeisiau prosthetig “nes bydd yr Hero Arm ar gael gan yr NHS.”
“Mae proses yr NHS ar gyfer cael dyfais brosthetig yn aneglur ac araf, ac yn golygu mai’r unig opsiwn ar gyfer pobol ifanc fel Tallulah yw cael bachyn.”
Mae modd gwneud cais am yr Hero Arm ar wefan Open Bionics, ac maent yn cynnig cefnogaeth i godi arian er mwyn talu am y fraich brosthetig.