Bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn cyhoeddi newidiadau heddiw (11 Medi) i’r rheolau ar gwrdd â phobl dan do.

Mewn datganiad amser cinio, bydd hefyd yn ei gwneud hi’n orfodol i wisgo masgiau mewn siopau a mannau cyhoeddus dan do.

Daw’r newidiadau wrth i rannau o Gymru weld cynnydd yn nifer yr achosion o’r feirws sy’n gysylltiedig â phobl yn cyfarfod ac yn cymdeithasu ag eraill dan do, heb ymbellhau’n gymdeithasol.

Terfyn o chwech o bobl

O ddydd Llun (Medi 14) bydd terfyn newydd o chwech o bobl yn cael eu cyflwyno ar y nifer y bobl sy’n gallu cyfarfod dan do ar unrhyw un adeg. Rhaid i bob un o’r chwech berthyn i’r un ‘grŵp cartref estynedig’.

Rhaid i bob un o’r chwech berthyn i’r un grŵp cartref estynedig o hyd at bedair aelwyd.

Ni fydd unrhyw newid i’r rheolau ar gyfarfod yn yr awyr agored.

Daw’r newidiadau wrth i rannau o Gymru weld cynnydd yn nifer yr achosion o’r feirws sy’n gysylltiedig â phobl yn cyfarfod ac yn cymdeithasu ag eraill dan do ond heb ymbellhau cymdeithasol.

Masgiau

“Heddiw am y tro cyntaf rydym wedi cyrraedd pwynt lle mae 20 o bobl o bob 100,000 yn dioddef o coronafirws yng Nghymru”, meddai Mark Drakeford.

“Dyna’r trothwy rydyn ni’n ei ddefnyddio i bobl orfod cael cwarantin sy’n dod yn ôl i’r DU.

“Ac wedi cyrraedd hynny heddiw, byddwn yn gwneud gorchuddion wyneb yn orfodol mewn siopau ac mewn mannau cyhoeddus caeedig yng Nghymru.”

“Newid rhagofalus”

“Newid rhagofalus yw hwn er mwyn atal y cynnydd yn y niferoedd yma yng Nghymru cyn iddyn nhw fynd yn ddifrifol iawn”, meddai Mark Drakeford wrth Radio Wales.

“Mae gorchuddion wyneb yn orfodol yn yr Alban a Lloegr ers rhai wythnosau bellach, ac mae’r sefyllfa yn y ddwy wlad hynny’n waeth nag yng Nghymru.

“Weithiau mae pobl yn siarad am orchuddion wyneb fel pe baent yn rhyw fath o ffon hud – dydyn nhw ddim – maen nhw’n fesur rhagofalus synhwyrol.

“Er bod nifer yr achosion yn isel mewn sawl rhan o Gymru rydyn ni’n cyflwyno hyn nawr oherwydd ein bod ni’n gweld cynnydd mewn rhai rhannau o’r wlad.

“Rydyn ni’n awyddus i atal y niferoedd rhag codi fel sydd wedi disgywdd mewn llefydd eraill.”

Eithriadau

Eglruodd y Prif Weinidog mae’r un eithriadau i wisgo gorchudd wyneb fydd mewn siopau a llefydd cyhoeddus a sydd ar drafnidiaeth cyhoeddus.

Nid oes angen i blant o dan 11 oed, pobl sydd â salwch corfforol neu sydd â thrafferthion anadlu wisgo gorchuddion wyneb.

Dydy hi ddim yn orfodol i wisgo goruchuddion mewn gweithleoedd.

Ysgolion

Er fod 31 o ysgolion wedi gorfod gofyn i ddisgyblion hunan ynysu, eglurodd Mark Drakeford na fyddai yn gwneud hi’n orfodol i wisgo gorchuddion wyneb mewn ysgolion.

Awdurdodau lleol sydd yn dewis i orfodu gwisgo gorchudd wyneb mewn ysgolion.

Caerffili

Ni fydd y newidiadau hyn yn berthnasol yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, lle mae cyfyngiadau lleol wedi’u cyflwyno. Mae aelwydydd estynedig wedi’u gwahardd yno am y tro.

Mae Caerffili wedi gweld un o’r graddfeydd uchaf o achosion yn y DU, gyda 91.1 achos am bob 100,000 o’r boblogaeth dros gyfnod o saith diwrnod.