Mae 200 o swyddi yn y fantol ym Mhrifysgol Bangor wrth i’r sefydliad gychwyn cyfnod o ymgynghori er mwyn arbed £13m.

Oherwydd bod y brifysgol wedi denu llai o fyfyrwyr o dramor, mae yna lai o arian wedi dod mewn i’r coffrau.

“Mae Prifysgol Bangor wedi gweithio’n rhagweithiol trwy gydol y misoedd diwethaf i gynnal profiad myfyrwyr a lleihau effaith Covid-19 ar ein gweithrediadau”, meddai llefarydd ar ran Prifysgol Bangor.

“Er gwaethaf hyn, rhagwelir diffyg mewn incwm sy’n ymwneud yn bennaf â recriwtio myfyrwyr rhyngwladol yn 2020/21, sy’n ei gwneud yn ofynnol i ni edrych ar wneud arbedion.

“Felly mae’r Brifysgol wedi cychwyn cyfnod o ymgynghori.

“Mae myfyrwyr wrth galon y Brifysgol a’n blaenoriaeth yw sicrhau bod eu profiad nid yn unig yn cael ei amddiffyn, ond hefyd yn cael ei wella.

“Er bod hwn yn gyfnod heriol iawn, mae hefyd yn gyfle i arloesi a dod allan o gyfnod Covid-19 yn gryfach ac yn arwain y ffordd ym maes addysg uwch ac economi gogledd Cymru a thu hwnt.”

“Ergyd enfawr i’r ardal”

Mae Aelod o Senedd Cymru dros Arfon wedi disgrifio’r newyddion fel “ergyd enfawr i’r ardal”.

“Mae cyfnod pryderus o’n blaenau, i staff a’u teuluoedd”, meddai Siân Gwenllïan.

“Rwy’n gobeithio y gall y Brifysgol fanteisio ar y pecynnau cymorth Covid-19 sydd ar gael ac y gellir amddiffyn cymaint o swyddi â phosibl.

“Mae Prifysgol Bangor yn gyflogwr sylweddol a phwysig i’r ardal, ac yn hanfodol wrth ddatblygu’r economi leol trwy ymchwil a darparu sgiliau hanfodol ar gyfer gweithlu’r dyfodol. Rhaid cymryd pob cam posib i amddiffyn y swyddi yma.”

Ychwanegodd Hywel Williams, yr Aelod Seneddol lleol fod yr “anhrefn” o amgylch canlyniadau Lefel A wedi effeithio ar y brifysgol.

“Rwy’n ofni nad yw’r anhrefn o amgylch canlyniadau Lefel A yn Lloegr wedi bod o help, a gall hyn fod wedi arwain at rai myfyrwyr yn dargyfeirio i brifysgolion eraill”, meddai.

“Mae’r rhain yn amseroedd anhygoel o heriol i bawb, ac mae prifysgolion wedi bod yn agored i effaith ariannol pandemig Covid-19 ar draws nifer o feysydd, gan gynnwys colli incwm ffioedd dysgu rhyngwladol.

“Estynaf fy nghefnogaeth i bawb sydd cael eu heffeithio gan y newyddion hyn.”