Ysgol Gynradd Penllwyn yng Nghapel Bangor, Ceredigion, yw’r diweddaraf i ofyn i ddisgyblion hunan-ynysu oherwydd achos o Covid-19.

Ers i ysgolion ail agor ddechrau’r mis mae dros 30 o ysgolion yng Nghymru wedi gofyn i ddisgyblion a staff aros gartref am 14 diwrnod i leihau lledaeniad posibl y feirws i deulu, ffrindiau a’r gymuned ehangach.

Grŵp Cyswllt

I leihau risgiau i ddisgyblion a staff, mae disgyblion yn y sir yn cael eu rhoi mewn grŵp cyswllt fesul blwyddyn a dosbarth.

“Oherwydd y gweithdrefnau cryf sydd wedi’u rhoi ar waith yn yr ysgol, dim ond un Grŵp Cyswllt y gofynnir iddo hunan-ynysu”, meddai llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion.

“Mae’r Ysgol wedi cysylltu â’r holl rieni a byddant hefyd yn cael eu cefnogi gan Dîm Olrhain Cyswllt Ceredigion”.

Nid yw’n glir faint o ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Penllwyn sydd wedi eu heffeithio.

Daw cyhoeddiad ar ôl i athrawon yng Ngheredigion rannu eu pryderon gyda’r Cyngor Sir bod rhieni yn ymgasglu y tu allan i gatiau’r ysgol, a ddim yn cadw pellter cymdeithasol wrth ollwng a chodi eu plant ar ddechrau a diwedd y diwrnod ysgol.