Mae Pizza Hut wedi cyhoeddi y bydd 29 o’u bwytai ym Mhrydain yn cau, gydag un ohonyn nhw yng Nghymru – eu bwyty yng Nghroes Cwrlwys, Caerdydd.

Rhagwelir bod 450 o swyddi yn y fantol oherwydd bod 29 bwyty yn cau.

Daw’r newyddion wedi i gwmni Pizza Express gyhoeddi y bydd 73 o’u bwytai yn cau, gyda 1,100 o staff yn colli eu gwaith.

Er bod bwytai Pizza Hut wedi agor yn saff a sydyn “nid oes disgwyl i werthiant gynyddu yn sylweddol nes o leiaf canol 2021,” meddai’r cwmni.

“Rydym yn gwneud popeth allwn ni i adleoli staff er mwyn lleihau’r effaith ar ein gweithlu,” meddai llefarydd Pizza Hut.

“Nid yw’n bosib i ni rannu faint o swyddi sydd yn y fantol ym mhob bwyty…

“Deallwn fod y cyfnod yn anodd i’r holl dîm, ac rydym yn cefnogi ein gweithwyr cymaint â phosib.”

Drwy gau 29 o’u safleoedd, mae Pizza Hut yn anelu at arbed 5,000 o swyddi ar draws gweddill eu bwytai, a diogelu eu busnes.