Mae trigolion Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful yn cael eu gofyn i wisgo masgiau yn y gwaith, mewn siopau ac mewn mannau cyhoeddus gorlawn mewn ymgais i osgoi cyfyngiadau cloi Covid-19 lleol arall, mae’r BBC yn adrodd.

Gofynnir iddynt hefyd beidio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus oni bai bod hynny “yn hanfodol”, a gweithio gartref am yr wythnosau nesaf os yw hynny’n bosib.

Merthyr Tudful sydd â’r gyfradd achosion coronaidd uchaf ond un yng Nghymru – y tu ôl i Gaerffili, sydd eisoes dan gyfyngiadau llymach na gweddill y wlad.

Mae trigolion Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful eisoes wedi eu rhybuddio bod cyfyngiadau clo yn bosibilrwydd ar ôl cynnydd mewn achosion yn y ddwy ardal.

Fodd bynnag, mewn datganiad ar y cyd, dywedodd yr Awdurdodau Lleol na fydd hynny’n digwydd am y tro:

“Oherwydd cynnydd yn y nifer sy’n profi’n bositif am Covid-19, ac i osgoi cyfnod clo arall yn y dyfodol, mae arweinwyr cyngor Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf yn gofyn i’r holl drigolion weithredu nawr er mwyn osgoi’r angen am gyfnod clo arall yn y dyfodol agos.”