Mae Leighton Andrews, cyn-Ysgrifennydd Addysg Cymru sydd bellach yn darlithio yn Ysgol Busnes Prifysgol Caerdydd, wedi codi amheuon am ddyfodol datganoli os na fydd cydsyniad rhwng y pleidiau gwleidyddol yn y Senedd.

Wrth siarad â golwg360, dywed fod yna fudiad trawsbleidiol – yn bennaf rhwng Llafur, Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol – sy’n dal i “gefnogi” datganoli i Gymru.

Ond 27 mlynedd ers cyflwyno datganoli, mae Leighton Andrews yn dadlau nad yw’r pleidiau hyn, ynghyd â’r Ceidwadwyr Cymreig, ar yr un dudalen o ran sut ddylai datganoli edrych.

“Mae llawer o’r bobol sydd o blaid datganoli bellach yn y Senedd, neu wedi bod yn rhan o’r Senedd, ac wedi bod yn rhan o’r broses sefydliadol yno,” meddai Leighton Andrews.

Ond, yn debyg i’r mudiad o blaid diwygio cyfansoddiadol ar lefel y Deyrnas Unedig, meddai, does dim “math o fudiad trawsbleidiol er lles datganoli” yng Nghymru erbyn hyn.

“Felly, dw i’n teimlo bod yna fath o wagle gwleidyddol yno,” meddai.

Er bod gan y pleidiau unigol eu hamcanion eu hunain o ran datganoli, dywed fod yna “ddiffyg mudiad eang sydd o blaid datganoli”.

Mae’r sefyllfa bresennol yn un “beryglus” i ddyfodol datganoli, meddai.

‘Haws ymgyrchu dros rywbeth sydd ddim yn bodoli’

Yn ôl Leighton Andrews, mae gwahaniaeth sylfaenol rhwng parhau i ymgyrchu dros ddatganoli a’r Senedd ar y naill law, a chysyniad haniaethol fel Brexit.

Y prif wahaniaeth, meddai, yw fod datganoli a’r Senedd eisoes yn bodoli, ac mae hynny’n anoddach i ymgyrchu drosto na rhywbeth newydd sbon mae modd ei adeiladu o’r newydd.

“Mae’n anodd meddwl sut allwch chi ddod â digon o bobol at ei gilydd i greu mudiad sydd o blaid datganoli,” meddai, gan ychwanegu nad yw’n gwbl amhosib, gan dynnu ar enghraifft TUC Cymru, sy’n gyngres o 48 o undebau â safbwyntiau amrywiol a chyferbyniol i’w gilydd.

“Dw i ddim yn meddwl bod yna allu i wneud hyn ar hyn o bryd.

“Ond rwy’n meddwl ei bod yn cymryd ffocws ac egni i ddod â rhywbeth fel hyn i fodolaeth.”