Bydd Cyngor Ceredigion yn wynebu cynnig i adalw’r penderfyniad i gynnal ymgynghoriad statudol ar gau pedair o ysgolion gwledig yng ngogledd y sir yn eu cyfarfod ddydd Mawrth nesaf (Rhagfyr 3).

Daw’r cynnig wedi misoedd o ddadlau rhwng y Cyngor, rhieni a phobol leol, ac ymgyrchwyr.

‘Camarweiniol’

Yr wythnos ddiwethaf, cafodd un o arweinwyr y Cyngor ei gyhuddo gan Gymdeithas yr Iaith o fod wedi “camarwain” y Cabinet ynghylch cyngor cyfreithiol ar gau’r ysgolion dderbyniodd y Cyngor gan Lywodraeth Cymru.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn honni y daeth y penderfyniad i gynnal ymgynghoriad ar gau’r ysgolion ym mis Medi eleni yn rhy gynnar, yn ôl y rheolau sy’n cael eu hamlinellu yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion cenedlaethol.

Mae’r Cod yn datgan y dylai’r broses o ymgynghori ar ddyfodol unrhyw ysgol gael ei chynnal pan fydd cynigion “yn dal ar gam ffurfiannol”.

Mae Cyngor Ceredigion wedi gwadu cyhuddiadau Cymdeithas yr Iaith, ac yn awgrymu bod y grŵp ymgyrchu yn ceisio “tanseilio proses gyfreithiol drwy wneud honiadau ffug”.

Sialens ffurfiol

Mae Cymdeithas yr Iaith bellach wedi croesawu’r cynnig newydd.

Pe bai’n cael ei basio, byddai’r ymgynghoriad yn cael ei drin fel “cyfnod ymgynghori anffurfiol er mwyn casglu rhagor o wybodaeth”, yn hytrach nag ymgynghoriad statudol.

Mae’n ymddangos bod y cynnig yn cael ei gyflwyno yn sgil her ffurfiol yn erbyn y Cyngor.

Mae’r papur cynnig yn nodi “ar 19 Tachwedd 2024, derbyniodd yr Awdurdod her ffurfiol ynghylch y penderfyniad a wnaed ar 3/9/2024 i gynnal ymgynghoriad statudol gyda’r 31/8/24 fel dyddiad cau arfaethedig, a ystyriwyd nad oedd yn ymarferol, ac felly bod angen ailystyried y penderfyniad a wnaed ar y dyddiad hwnnw”.

Dydy hi ddim yn glir gan Gymdeithas yr Iaith pa her yn union ar Dachwedd 19 sydd wedi arwain y Cyngor i ailystyried y sefyllfa.

‘Dyma’n union roedd ei angen’

“Mae Cymdeithas yr Iaith yn croesawu’r cynnig sydd gerbron cyfarfod Cabinet Cyngor Ceredigion ddydd Mawrth nesaf i ddechrau gwrando ar y cymunedau cyn gwneud penderfyniadau ar eu dyfodol ar eu rhan,” meddai Ffred Ffransis o Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith.

“Dyma’n union roedd ei angen o’r cychwyn, sef ceisio barn yr ysgolion a’r cymunedau yn gyntaf, cynnal trafodaeth agored, ac wedyn ceisio’r ffordd ymlaen.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Gyngor Ceredigion.

Cau pedair ysgol wledig: Cyngor Ceredigion “wedi’u camarwain”

Daw sylwadau Cymdeithas yr Iaith ar ôl i Lywodraeth Cymru wadu honiadau Cyfarwyddwr y Cyngor fod gan y penderfyniad gymeradwyaeth swyddogol