Mae gyrwyr yng Nghasnewydd yn parhau i orfod wynebu priffordd “ddisymud” ar hyd yr M4, ac mae cynghorwyr yn rhybuddio bod yr oedi cyn cyflwyno gwelliannau trafnidiaeth yn “annerbyniol”.
Mae pedair blynedd ers i gomisiwn trafnidiaeth gyhoeddi glasbrint ar wella trafnidiaeth yng Nghasnewydd, oedd yn argymell sawl gorsaf drenau newydd a rhwydwaith fysiau a threnau fyddai wedi’i intergreiddio’n well.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi gwaith y comisiwn, ac ym mis Hydref eleni fe wnaethon nhw ddatgelu cynigion mwy manwl ar gyfer y ddinas.
Pe bai’r cynllun yn mynd yn ei flaen, mae disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau rhwng 2025 a 2030, ond fe allai gostio hyd at £810m.
Mae’n ymddangos y bydd Llywodraeth Cymru’n cyfrannu £425m, ac y bydd y £385m sy’n weddill yn dod gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Mae Ken Skates, Ysgrifennydd Trafnidiaeth Cymru, wedi canmol y cynigion am eu bod yn addo “prosiect hollol drawsnewidiol” i Gasnewydd a’r cyffiniau.
Rhwystredigaeth
Yng nghyfarfod Cyngor Casnewydd ddydd Mawrth (Tachwedd 26), roedd rhwystredigaeth dros gynnydd y prosiect, fodd bynnag.
“Rydym ni’n parhau i weld bod yr M4 yn ddisymud yn ddyddiol o amgylch Twnelau Bryn-glas, sy’n golygu bod gormodedd o draffig yn gorlifo i strydoedd Casnewydd ac yn creu rhagor o draffig a phroblemau ansawdd aer,” meddai’r Cynghorydd Chris Reeks.
Roedd gan yr awdurdod lleol “ddyletswydd ar ran busnesau a thrigolion Casnewydd i lobïo Llywodraeth Cymru er mwyn iddyn nhw edrych ar ddatrysiadau amgen fyddai’n lleddfu’r tagfeydd ac yn gwella bywydau trigolion a’r economi lleol”, meddai.
Ymateb y Cynghorydd Dimitri Batrouni, arweinydd y Cyngor, oedd pwysleisio’i fod wedi cefnogi cynllun ffordd liniaru’r M4, gafodd ei ddileu gan Lywodraeth Cymru yn 2019.
Soniodd fod y Cynghorydd Rhian Howells, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Isadeiledd, wedi bod yn teithio i Lundain ddoe (dydd Mercher, Tachwedd 27) er mwyn “helpu i lobïo Llywodraeth San Steffan” ar y datrysiadau amgen gafodd eu crybwyll gan y Cynghorydd Chris Reeks.
“Dw i’n siarad gyda gweinidogion Llywodraeth Cymru o hyd,” meddai’r Cynghorydd Dimitri Batrouni.
“Mae’n annerbyniol ac yn atal twf Casnewydd, a ddylen ni ddim bod yn derbyn hynny.”
Cylchfan
Er iddo alw ar y Cyngor i weithredu, rhybuddiodd y Cynghorydd Chris Reeks hefyd y byddai cael gwared ar yr Hen Gylchfan Werdd yng nghanol y ddinas – un o’r prosiectau gafodd eu cynnig gan y comisiwn trafnidiaeth, sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd – o bosib yn wrthgynghyrchiol.
“Mae’n eithaf eironig; cafodd yr Hen Gylchfan Werdd ei hadeiladu yn y 1970au’n wreiddiol er mwyn lliniaru’r ciwiau traffig oedd yn teithio tuag at ganol y ddinas,” meddai.
“Ond mae’n hynod debygol nawr, pe bai’r cynllun yn cael ei weithredu a’r gylchfan ei thynnu, y byddwn ni’n dychwelyd i heolydd disymud ac anhrefn dyddiol o ran traffig.”
Dywedodd y Cynghorydd Rhian Howells fod y comiwisn wedi rhagweld y byddai modd ailgyflunio’r gylchfan “heb effaith annerbyniol ar draffig yn gyffredinol”.
“Mi fydd y prosiect hwn yn gweld degau o filiynau o bunnoedd o fuddsoddiad yn dod i mewn i ganol Casnewydd er mwyn moderneiddio a diweddaru ein hisadeiledd,” meddai wrth y cyfarfod.
Fe wnaeth y Cynghorydd Chris Reeks honni bod nifer o drigolion yn gwrthwynebu’r prosiect, ond dywedodd y Cynghorydd Rhian Howells y byddai’r cynnig roedd hi’n ei ganmol, yn dilyn cyfnod ymgynghori a phroses fodelu traffig “manwl”, yn darparu “buddion cytbwys” i gerddwyr, beicwyr a gyrwyr.
“Dw i’n gallu calonogi’r Cynghorydd Reeks fod sgyrsiau gyda rhanddeiliad yn parhau, a phan fydd problemau’n cael eu codi a datrysiadau ymarferol yn gallu cael eu canfod, y byddwn ni’n ymdrechu i’w cymhwyso,” meddai wedyn.
“Ar ran Grŵp Cyflenwi Burns, mi fyddwn ni’n parhau i ymwneud ag ystod o brosiectau ac yn sicrhau eu bod nhw’n cyflawni’r canlyniadau gorau i Gasnewydd.”
Wedi’r cyfarfod, dywedodd y Cynghorydd Chris Reeks, sy’n Geidwadwr, ei fod wedi’i “blesio” o glywed bod aelod o’r Cabinet yn lobïo Llywodraeth y Deyrnas Unedig am gyllid.
“Dw i’n gobeithio y bydd gweithio gyda’n gilydd gyda’r arweinydd a’r weinyddiaeth Lafur yng Nghyngor Dinas Casnewydd yn ein galluogi ni i wneud rhyw gynnydd o ran datrys yr anhrefn traffig dyddiol yng Nghasnewydd,” meddai.