Fe fu cynnydd yn nifer yr ail gartrefi sy’n cael eu troi’n ôl yn brif gartrefi yng Ngwynedd, yn ôl adroddiad newydd.
Daeth ymchwil gafodd ei chyflwyno yn adroddiad Cyngor Gwynedd ar effaith y newidiadau diweddar i’r premiwm treth gyngor – sy’n cael ei ddefnyddio fel offeryn i fynd i’r afael â phroblemau tai’r sir – ei fod yn “llwyddo”.
Pan wnaethon nhw gyfarfod ddydd Mawrth (Tachwedd 26), roedd Cabinet y Cyngor wedi bod yn ystyried yr adroddiad Treth Cyngor – Hawl Disgresiwn i Ganiatáu Disgowntiau a/neu Godi Premiwm 2024-25.
Cafodd y manylion eu cyhoeddi yn ystod trafodaeth i gymeradwyo’r opsiynau sy’n cael eu ffafrio o ran premiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor.
Roedden nhw wedi bod yn ceisio penderfyniad – gafodd ei gymeradwyo – i argymell cadw’r premiwm treth gyngor ar y lefelau presennol.
Bydd yr argymhellion yn mynd gerbron y Cyngor llawn.
‘Offeryn llwyddiannus’
Roedd penderfyniad wedi’i geisio, a chafodd adroddiad ei gyflwyno gan y Cynghorydd Paul Rowlinson, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Gyllid.
Roedd e wedi croesawu newidiadau blaenorol i’r premiwm treth gyngor fel “offeryn llwyddiannus” wrth helpu i fynd i’r afael ag anawsterau tai yn y sir.
“Yn nhermau eiddo’n symud rhwng bod yn ail gartref ac yn brif gartref, fel arfer fe fu llif (net) o eiddo o brif eiddo i ail gartref,” medd ymchwil sydd wedi’i hamlinellu yn yr adroddiad.
“Ond roedd y llif net i’r gwrthwyneb (h.y. o ail gartrefi i brif gartrefi) yn y cyfnod cyn cynyddu’r premiwm i 100% yn Ebrill 2021, ac (yn fwy pendant ac hirhoedlog) cyn ac ar ôl cynyddu’r premiwm i 150% yn Ebrill 2023 fod y llif yma wedi tyfu fel bod nifer yr ail gartrefi bellach yn sefydlog (h.y. mae’r llif oddeutu’r un fath â llif ail gartrefi’n brif gartrefi).”
“Bellach, mae mwy o ail gartrefi’n troi’n ôl i fod yn brif gartrefi, felly mae’n ymddangos bod y polisi’n llwyddo,” meddai’r Cynghorydd Paul Rowlinson.
Yn ystod y cyfarfod, fe wnaeth e ddyfynnu o ganllawiau Llywodraeth Cymru, gan ddweud bod y grym i gynyddu’r premiwm wedi bod yn “adnodd i ddod ag eiddo gwag hirdymor yn ôl i ddefnydd, ac i helpu awdurdodau lleol i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy a gwneud cymunedau lleol yn fwy cynaliadwy”.
Cafodd y mesurau eu defnyddio fel “offeryn yn ein polisi tai, nid fel ffordd o gynhyrchu refeniw”, meddai.
Erthygl 4
Hefyd, wrth gyfeirio at Erthygl 4, gafodd ei chyflwyno ym mis Medi – dywedodd ei bod yn “offeryn pwysig” sy’n cyfyngu ar allu i newid defnydd eiddo o fod yn brif gartref i fod yn ail gartref heb geisio caniatâd cynllunio.
“Gallwn osod polisi sy’n gwrthod caniatâd mewn ardaloedd lle mae’n anodd i bobol ddod o hyd i gartrefi, o ganlyniad i’r pwysau o ran nifer yr ail gartrefi,” meddai.
“Dim ond tri mis yn ôl y daeth Erthygl 4 i mewn.
“Dw i’n credu bod angen mwy o amser i asesu’r effaith cyn i ni newid unrhyw beth arall.
“Mae’n werth cofio, os oes angen i ni cynyddu’r dreth gyngor yn sylweddol eleni, sy’n edrych yn debygol, fe fydd y premiwm yn cynyddu’n awtomatig.”
Yn ôl ei adroddiad, ar gyfer blynyddoedd ariannol 2023-24 a 2024-25, roedd y Cyngor eisoes wedi codi premiwm treth gyngor o 150% ar ail gartrefi a 100% ar eiddo gwag hirdymor, ond mae deddfwriaeth yn caniatáu i’r Cyngor godi premiwm hyd at 300%.
“Fodd bynnag, pe bai’r Cyngor yn codi cyfradd y premiwm, byddai’n rhaid ystyried a fyddai penderfyniad o’r fath yn rhesymol, ar ôl ystyried canllawiau statudol, sy’n ganlyniad i ymchwil a chyngor cyfreithiol,” meddai.
“Y penderfyniad ydy ein bod ni’n argymell i’r Cyngor llawn ein bod ni’n cynnal lefel y premiwm fel ag y mae am y flwyddyn nesaf.”
Newid arall ers i’r premiwm gynyddu, meddai, yw “ymestyn y trothwy ar gyfer rhoi eiddo ar osod, sy’n galluogi llety hunanarlwyo i dalu treth annomestig yn hytrach na’r dreth gyngor”.
“Os nad ydy’r eiddo’n bodloni’r trothwyon hyn, yna mae’n rhaid talu’r premiwm ail gartrefi yn ogystal â’r dreth gyngor,” meddai.
“Mae gan y Cyngor bwerau disgresiwn i beidio codi’r premiwm, a byddwn yn ystyried defnyddio’r pwerau hyn yn y dyfodol.”