Gyda’r cysylltiadau rhwng Cymru a’r Ariannin mor gryf ag erioed, mae un ferch o’r wlad yn Ne America yn awyddus i wneud ei marc ar wleidyddiaeth yng Nghymru.
A hithau’n aelod o Blaid Cymru, mae Leticia Gonzalez yn sefyll i fod yn gynghorydd dros ward y Sblot ar Gyngor Caerdydd.
Mae hi’n hanu o Buenos Aires yn wreiddiol, ond symudodd i Lundain i fyw cyn dod i Gaerdydd gyda’i chariad, a bu’n byw yma ers dros ddeng mlynedd erbyn hyn.
“A’r cynllun gwreiddiol oedd symud i Corea efo fo, ond yn y diwedd ddaru fi aros yng Nghymru gan fy mod yn caru bod yma,” meddai wrth golwg360.
Ond mae cysylltiad Leticia Gonzalez â Chymru’n ymestyn ymhellach na’r adeg symudodd hi i Gaerdydd, a hithau wedi ymweld â Phatagonia ar daith ysgol pan oedd hi’n ferch fach.
“Dwi’n cofio hi’n cymryd tua phymtheg awr i fynd mewn bws o Buenos Aires i Batagonia!” meddai.
“Ac, wrth gwrs, mi ddaru ni ymweld â phentref Cymraeg yno.”
Dywed ei bod hi’n teimlo’i bod hi wedi mynd “mewn cylch llawn” pan gyrhaeddodd hi Gaerdydd, wrth i’r atgofion o gacennau a llwyau Cymreig lifo’n ôl iddi.
“Mae o ychydig bach fel stori ramantus mewn rhai ffyrdd,” meddai.
‘Pobl yn fwy parod i siarad efo chi fel ymgeisydd’
Cafodd Leticia Gonzalez flas ar ymgyrchu gwleidyddol yn ystod yr etholiad cyffredinol eleni.
Roedd hi allan ar strydoedd Gorllewin Caerdydd yn helpu ymgyrch Kiera Marshall, ymgeisydd Plaid Cymru, ddaeth yn ail i’r Blaid Lafur gyda bron i 10,000 o bleidleisiau.
Ond bellach, mae’n bryd i Leticia Gonzalez arwain ei hymgyrch ei hun.
“Mae o’n wahanol iawn sut mae pobol yn siarad efo fi rŵan fel ymgeisydd o gymharu â phan oeddwn i’n canfasio,” meddai.
“Dw i’n meddwl, pan mai ti ydi’r ymgeisydd, maen nhw’n fwy parod i roi amser.
“Ac wedyn dw i’n treulio tua deng munud i chwarter awr yn trafod pob mathau o bethau efo etholwyr.”
‘Pwysig bod y Cymry’n amddiffyn yr hyn sy’n perthyn iddyn nhw’
Dywed Leticia Gonzalez ei bod hi wedi darllen maniffesto pob plaid yn ystod ei hetholiad cyntaf yng Nghymru, ac wedi cysylltu fwyaf efo Plaid Cymru.
“Dw i’n teimlo ei bod yn bwysig iawn bod y Cymry yn amddiffyn yr hyn sy’n perthyn iddyn nhw,” meddai.
“Tra dw i wedi bod yn byw yma, dw i wedi sylweddoli faint mae Cymru yn cael ei hanwybyddu gan San Steffan.”
Mae hi hefyd yn disgrifio’i hun fel mewnfudwr, a dywed fod y Cymry wedi bod yn fwy croesawgar iddi nag yr oedd pobol sy’n byw yn Llundain.
Helpu pobl ifanc
Pe bai hi’n llwyddiannus yn ei hetholiad i fod yn gynghorydd, dywed Leticia Gonzalez fod ganddi dri phrif bolisi ar gyfer cymuned y Sblot, sef:
- lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol
- atal gollwng sbwriel yn anghyfreithlon
- gwella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus – ar hyn o bryd, dim ond un bws sydd yn cysylltu’r Sblot efo dinas Caerdydd, sef bws rhif 11.
Dywed fod gwella meysydd fel trafnidiaeth gyhoeddus yn ffordd o “helpu pobol ifanc” i gyrraedd llefydd fel clybiau cymdeithasol.
“Mae’r tri pholisi yn gyd-gysylltiedig,” meddai.
Bydd is-etholiad y Sblot yn cael ei gynnal ar Ragfyr 5, a’r ymgeiswyr yw:
- Anny Andreson, Llafur Cymru
- Lee Canning, Reform UK
- Sam Coates, Plaid Werdd Cymru
- Kyle Cudgie Cullen, Propel: dros Gymru Rydd
- Leticia Gonzalez, Plaid Cymru
- Tomos Llywelyn, Ceidwadwyr Cymreig
- Cadan Ap Tomos, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru