Mae nifer yr achosion o’r coronafeirws ar gynnydd yng Nghymru wrth i’r sefyllfa waethygu ledled gwledydd Prydain, yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru heddiw (dydd Llun, Mehefin 14).

Mae’n dweud bod y patrwm ar hyn o bryd yn debyg i’r hyn a gafodd ei weld ym mis Chwefror, gan ychwanegu fod camau’n cael eu cymryd er mwyn osgoi cyfnod clo arall.

Daeth cadarnhad o’r cyfyngiadau a rheolau newydd sydd wedi dod i rym bellach.

Dywedodd fod tebygrwydd rhwng y niferoedd cynyddol o achosion yn ardaloedd Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Chasnewydd, gan gynnwys “cymdeithasu dan do a gartref heb gadw pellter cymdeithasol, ac achosion yn cael eu cludo o wyliau tramor”.

Dywedodd hefyd mai parti oedd yn fwyaf tebygol o fod wedi arwain at y cynnydd yng Nghasnewydd, lle’r oedd 18 o achosion cysylltiedig.

Ceisio atal clo mawr arall

Dywedodd fod Cell Gynghorol Tactegol Cymru wedi rhybuddio y dylid cymryd camau nawr i geisio atal clo llawn arall.

Dywedodd Mr Gething wrth gynhadledd i’r wasg fod yr ystod o fesurau i fynd i’r afael ag achosion lleol wedi’i gynyddu yng Nghymru:

“Mae’r rhain yn cynnwys y posibilrwydd o gyflwyno cyrffyw, cyfyngu ar werthu alcohol a newid gweithrediadau tafarndai, gan gynnwys y posibilrwydd o gwtogi oriau agor neu ganiatáu gwerthu alcohol gyda bwyd yn unig,” meddai.

Profion

Wrth drafod diffyg profion yng Nghwm Rhondda, dywedodd y bu problem gyda system labordai Prydain a bod hynny’n “annerbyniol”.

Dim ond 60 o brofion sy’n gallu cael eu cynnal mewn unedau profi symudol yng Nghymru erbyn hyn.

Bu’n rhaid i awdurdodau lleol a’r Gwasanaeth Ambiwlans ymateb er mwyn sicrhau bod mwy o brofion ar gael dros y penwythnos, meddai, gan ddweud y bu problemau wrth archebu prawf mewn canolfannau galw heibio a bod rhai wedi gorfod teithio’n bell i gael prawf.

Dywedodd Vaughan Gething nad y capasiti is mewn safleoedd profi symudol oedd “yr unig faterion rydym yn eu profi gyda system y DU,” dywedodd:

“Rwy’n gwybod bod nifer o achosion lle mae pobl yn ceisio archebu prawf mewn canolfannau gyrru-i-mewn a gweld eu bod yn llawn neu’n cael gwybod y dylent fynd i ganolfan gannoedd o filltiroedd i ffwrdd,” meddai.

“Rwyf wedi siarad ag Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU am hyn, gan gynnwys ddydd Sadwrn, pan wnaethon ni gytuno i weithredu ar unwaith i ddiogelu capasiti mewn ardaloedd lle mae mwy o achosion a chynnydd sydyn… ac i sicrhau na osodir cyfyngiadau ar Gymru eto.

Dywedodd fod cynllun ar y gweill i symud cyfleusterau profi i Gymru tra bo’r broblem ehangach yn cael ei datrys.

Caerffili

Dywedodd Mr Gething hefyd fod newid o ran y bobol sy’n cael eu heintio yng Nghaerffili.

Pobol yn eu 40au a’u 50au sy’n profi’n bositif ar y cyfan erbyn hyn, meddai.

Ac mae’n dweud y bu rhai achosion yn ymwneud â chartrefi gofal yno.