Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi £33m o gyllid ar gyfer cyfleuster newydd ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro i ymdopi ag unrhyw gynnydd posibl mewn achosion o’r coronafeirws dros y gaeaf.

Daw hyn wedi i Ysbyty Calon y Ddraig yn Stadiwm Principality, oedd â 1,500 o welyau, gael ei ddatgomisiynu.

Gwariwyd £8m ar adeiladu’r ysbyty maes yn y stadiwm genedlaethol, ond dim ond 46 o gleifion cafodd eu trin yno.

Bydd y cyfleuster newydd, ger Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, yn darparu 400 o welyau ychwanegol.

Paratoi ar gyfer gaeaf “heriol iawn”

Eglurodd Vaughan Gething bydd y buddsoddiad yn help Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i ymdopi ag unrhyw gynnydd posibl mewn achosion o’r coronafeirws yn ystod y gaeaf.

“Gwyddom y gall y gaeaf arwain at fwy o anawsterau i staff y Gwasanaeth Iechyd. Gyda’r feirws yn fwy tebygol o ledaenu mewn tywydd oer, mae angen inni sicrhau bod gennym ddigon o welyau i ymdopi â’r cynnydd yn y galw.

“Yfory, byddaf yn datgelu camau pellach i’w cymryd yn y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol drwy gyhoeddi Cynllun Diogelu’r Gaeaf, ac yn ddiweddarach y mis hwn byddaf yn amlinellu cyllid ychwanegol ar gyfer Byrddau Iechyd eraill i sicrhau bod gennym ddigon o welyau ar draws gweddill Cymru.”

Dywedodd y Gweinidog Iechyd wrth gynhadledd Llywodraeth Cymru ddydd Llun (Medi 14) y bydd ysbytai maes ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru.

Prif adeilad yr ysbyty o bell
Bydd y cyfleuster newydd ger Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Dysgu o Ysbyty Calon y Ddraig

Croesawodd Len Richards, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro’r newyddion gan ddweud bydd modd i’r bwrdd iechyd gynllunio nawr ar gyfer capasiti ychwanegol.

“Bydd yr adeilad yn cyd-fynd â rhaglen ddatgomisiynu Ysbyty Calon y Ddraig yn Stadiwm y Principality, y byddwn wedi’i gadael erbyn diwedd mis Hydref, a bydd yn galluogi Undeb Rygbi Cymru i ddechrau gwneud eu cynlluniau eu hunain yn y stadiwm”, meddai.

“Fel gwasanaeth iechyd byddwn yn ystyried yr holl ddysgu o Ysbyty’r Ddraig y Galon, o ran dyluniad a gofynion clinigol ar gyfer yr ysbyty ymchwydd dros dro ac yn gweithio i’r gofynion modelu cenedlaethol.”

Dydy hi ddim yn glir eto lle bydd gemau cartref Cymru yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref yn cael eu cynnal.

Llinell Amser Ysbyty Calon y Ddraig

Mawrth 28 – Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro yn cyhoeddi mae Stadiwm Principality yw’r lleoliad mwyaf addas i godi ysbyty maes dros dro yn y brif ddinas.

Mawrth 29 – Gwaith adeiladau yn dechrau

Ebrill 12 – Ward gyntaf o 335 o welyau wedi ei gwblhau

Ebrill 20Tywysog Cymru yn agor Ysbyty Calon y Ddraig

Ebrill 28Cleifion cyntaf yn cael eu derbyn i’r ysbyty

Mai 8 – Trosglwyddo’r ysbyty yn swyddogol i’r bwrdd iechyd

Mehefin 4 – Yr ysbyty yn cael ei chau ‘dros dro’

Medi 3 – Gwaith o ddatgomisynu’r ysbyty yn dechrau

Medi 14 – Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi bydd ysbyty maes newydd yn cael ei adeiladu ger Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd