Bydd ysbyty dros dro, Ysbyty Calon Y Ddraig, yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd yn agor yn swyddogol heddiw (dydd Llun, Ebrill 20).
Dyma’r ysbyty dros dro mwyaf yng Nghymru, a’r ail fwyaf yn y Deyrnas Unedig, gan ddarparu hyd at 2,000 o wlâu ychwanegol ar gyfer cleifion coronafeirws pan fydd wedi’i gwblhau.
Bydd yr ysbyty yn dyblu maint system Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro, gyda chleifion yn cael eu trin mewn strwythurau arbennig tebyg i bebyll.
Mae oddeutu 750 o wlâu ar y cae, gyda 250 o wlâu ar blatfformau o’i gwmpas, yn ogystal ag adran radiograffeg, labordai a fferyllfa ar y safle.
Fe fydd yn gofalu am gleifion sydd yn dod at ddiwedd eu triniaeth am Covid-19 ac sydd angen cymorth, yn ogystal a gofal diwedd oes.
Dywed prif weithredwr Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro, Len Richards bod y stadiwm yn “ymgorffori calon ac enaid y genedl.”
“Rydym yn cynllunio ar sail yr hyn rydym yn credu y gallwn fod ei angen i sicrhau ein bod mor barod â phosib,” meddai.
Mae Len Richards wedi talu teyrnged i’r “ymrwymiad a dyfalbarhad” a ddangoswyd gan bawb oedd yn rhan o’r prosiect, sydd wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Brynhawn dydd Llun, bydd yr agoriad swyddogol yn cael ei gynnal gan y chwaraewr rygbi Dr Jamie Roberts, sydd yn gweithio dros dro fel cymrawd arloesi clinigol i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG).
Ymhlith y siaradwyr gwadd mae Cadeirydd Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro, Yr Athro Charles Janczewski, a chyfarwyddwr Ysbyty Calon Y Ddraig, Dr Jonathon Gray.
Bydd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething hefyd yn siarad, a bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn annerch pobl drwy gyswllt fideo.
Bydd y digwyddiad yn dod i ben gyda fideo sydd wedi cael ei recordio gan y Tywysog Charles o’i gartref Birkhall yn yr Alban.
Dros yr wythnosau diwethaf mae 650 o bobol wedi cael eu cyflogi yno.