Mae ymchwil newydd yn awgrymu bod llawer mwy o bobl wedi cael eu heintio gyda’r coronafeirws heb ddangos unrhyw symptomau, gan godi gobeithion bod y feirws yn llai angheuol nag oedd gwyddonwyr yn ofni yn wreiddiol.

Dywed swyddogion iechyd bod y firws fel arfer yn achosi salwch cymedrol tebyg i’r ffliw.

Mae tystiolaeth newydd yn awgrymu bod nifer fawr o bobl heb ddangos unrhyw symptomau o gwbl.

Sgriniodd gwyddonwyr yng Ngwlad yr Ia 6% o’r boblogaeth i weld faint o bobl heintiedig oedd heb eu canfod, gan ddarganfod bod 0.7% wedi profi’n bositif.

Bu i 13% o grŵp risg uchel brofi’n bositif ar ôl teithio neu gysylltiad i unigolyn heintiedig.

Yn Efrog Newydd, roedd ysbyty wedi cynnal profion ar yr holl ferched beichiog ddaeth i mewn dros gyfnod o bythefnos.

Darganfuwyd bod 14% o’r menywod, gyrhaeddodd heb symptomau coronafeirws, wedi eu heintio.

O’r 33 prawf positif, doedd gan 29 ohonyn nhw ddim symptomau, er bod rhai wedi datblygu symptomau yn ddiweddarach.

Mae ymchwilwyr nawr yn awgrymu bod 18% o bobl sy’n cael eu heintio byth yn datblygu symptomau.