Mae Downing Street wedi beirniadu adroddiadau mewn papur newydd sy’n awgrymu bod Boris Johnson a’i weinidogion wedi llaesu dwylo yn yr wythnosau’n arwain at y pandemig coronafeirws.

Mae Rhif 10 wedi cyhuddo’r Sunday Times o ddweud “celwyddau” ac o wneud “camgymeriadau” mewn adroddiad yn y papur lle mae ffynhonnell yn Whitehall yn honni bod y Llywodraeth wedi “colli cyfle o ran cynnal profion a PPE (cyfarpar diogelu personol).”

Yn ôl yr erthygl roedd llywodraeth Boris Johnson “jest wedi gwylio” wrth i nifer y meirw yn Wuhan, Tsieina gynyddu.

Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth bod yr erthygl yn cynnwys “cyfres o gelwyddau a chamgymeriadau” ac nad oedd yn cynrychioli’r holl waith oedd yn cael ei wneud gan y llywodraeth yn y cyfnodau cynnar pan ddechreuodd y coronafeirws.

“Mae hwn yn bandemig byd eang digynsail ac rydym wedi cymryd y camau cywir ar yr adeg iawn er mwyn ei orchfygu, ac wedi cael ein harwain gan y cyngor gwyddonol gorau.”

Mae’r gweinidog yng Nghabinet Llywodraeth Prydain, Michael Gove, wedi cadarnhau adroddiad yn y Sunday Times bod y Prif Weinidog heb fod yn bresennol mewn pum cyfarfod o’r pwyllgor argyfyngau brys Cobra yn y cyfnod yn arwain at yr argyfwng ond dywedodd nad oedd hyn yn “anarferol”.