Bywyd newydd i hen gapel ym Mhencaenewydd

Ail-adeiladu mewn mwy nag un ffordd, i sicrhau dyfodol ased i’r gymuned

Pan sylweddolwyd bod angen gwneud llawer o waith ymarferol i adnewyddu Capel Pencaenewydd, doedd y criw lleol heb setlo ar wneud gwaith ail-adeiladu ymarferol yn unig.

Gyda chymorth Grymuso Gwynedd, mae’r gymuned wedi ail-adeiladu eu gallu i feddwl yn greadigol am syniadau newydd ar gyfer yr adnodd.

Un syniad oedd sefydlu Gŵyl Ddrama uchelgeisiol dros yr haf, fu’n llwyddiant mawr. Maent wedi cynnal prosiectau eraill er mwyn i’r capel barhau i fod yn galon i’r cymdeithas leol am flynyddoedd i ddod.

Gwyliwch y fideo i glywed mwy gan y criw.

Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu’n rhannol trwy raglen Grymuso Gwynedd, sef un o raglenni Menter Môn sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chefnogaeth ariannol hefyd gan y Gwasanaethau Adfer Niwclear (NRS) ar ran yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA).