Gyda Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi ei Chynllun Gaeaf ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd yn nes ymlaen heddiw (15 Medi), mae Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru, wedi datgelu cynllun ei blaid ef er mwyn osgoi ail don o’r coronafeirws dros y gaeaf, ac er mwyn osgoi ail gyfnod clo.
Dywedodd Adam Price fod y dystiolaeth yn dangos fod Cymru “yn agos iawn at ail don Covid-19,” a byddai ddiffyg gweithredu nawr yn arwain at ail don “waeth na’r gyntaf.”
Gallai Cymru ddefnyddio “cyfnodau clo craff” sydd wedi eu hanelu at glystyrau penodol, yn debyg i’r strategaeth a ddefnyddiwyd yn Pacistan, yn ôl Mr Price.
Byddai’r cwarantîn-micro sydd gan Mr Price dan sylw yn canolbwyntio ar ardaloedd o fewn cymunedau lle mae nifer uchel o achosion, yn hytrach na thargedu ardal eang, megis awdurdodau lleol cyfan.
Bwrdeistref Sirol Caerffili oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i weld cyfyngiadau lleol, a gyda rhybuddion y gallai’r un fath ddigwydd mewn cynghorau lleol eraill, gallai’r strategaeth “tawelu” helpu ardaloedd eraill yng Nghymru i osgoi cyfyngiadau ehangach.
Manylion y cynllun
Mae’r cynllun 10 pwynt yn canolbwyntio ar ddatrysiadau cymunedol, defnyddio technoleg newydd a gwella cyfathrebu, ac wedi ei seilio ar y 10 pwynt canlynol.
- Cyfyngiadau clo craff: Cwarantîn-micro ar lefel gymunedol.
- Gwella’r gallu i adnabod clystyrau: Annog pawb i gadw cofnod o’u cysylltiadau drwy ddefnydd ap.
- Profi ar gyfer bobol heb symptomau sydd wedi bod mewn cysywllt ag achosion positif.
- Profion newydd: Defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf megis profi poer.
- Cyfathrebu: Dechrau sgwrs gyda’r cyhoedd i’w hannog i osgoi llefydd llawn lle mae’n rhaid mynd yn agos at eraill.
- Aer saffach: Ehangu’r defnydd o fasgiau, a gwella systemau awyru.
- Diogelu ysgolion a cholegau: Canllawiau cenedlaethol ar y defnydd o fasgiau.
- Lleihau marwolaethau, triniaethau gwell: Ymyrryd ag achosion yn fuan.
- Ffyrlo lleol.
- Cynllun Covid newydd: Cynllun cyhoeddus newydd tan ddaw brechlyn.
“Nid yw’n rhy hwyr”
Meddai Adam Price, “mae achosion newydd yn cynyddu, ac yn fuan mae’n bosib bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn y nifer o gleifion sydd mewn ysbytai a’r marwolaethau.
“Mae pobol yn dychwelyd o’u gwyliau, llacio cyfyngiadau, a llai o bobol yn cadw at ganllawiau wedi golygu cynnydd mewn achosion.
“Gyda’r hydref mae ysgolion yn ailagor, colegau a phrifysgolion yn ailddechrau, y tywydd oer yn dychwelyd a thymor y ffliw yn ein cyrraedd.
“Os na weithredwn nawr, yna mi fydd ail don y gaeaf yn waeth a ni fyddai dewis ond ailgyflwyno cyfnod clo llawn.
“Nid yw’n rhy hwyr i atal hyn rhag digwydd, gallwn fabwysiadu cynllun “tawelu” fyddai’n osgoi ail don ac ail gyfnod clo,” pwysleisiodd.
“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio eu holl adnoddau er mwyn curo’r feirws, gan ddefnyddio technolegau a thriniaethau newydd, ac mae’n rhaid iddynt
Cwestiynau’r Ceidwadwyr
Gan siarad cyn cyhoeddi Cynllun Gaeaf Llywodraeth Cymru heddiw (15 Medi), mae Andrew RT Davies wedi nodi pum cwestiwn ar ran y Ceidwadwyr y mae’n dweud y mae angen i’r Gweinidog Iechyd fynd i’r afael â hwy. Dywedodd Mr Davies, Gweinidog Iechyd Cysgodol y Ceidwadwyr:
“Ni allai neb anghytuno ei fod wedi bod yn chwe mis anodd i GIG Cymru.
“Efallai bod y pandemig yn – y gair hwnnw eto – ‘ddigynsail’, ond beth sy’n arferol yw’r pwysau y mae ein GIG bob amser yn eu hwynebu yn y gaeaf.
“Mae’n debygol y bydd Covid-19 yn gwneud y rhain yn waeth.
“Ac felly, mae gennyf bum cwestiwn y mae’n rhaid i’r Gweinidog Iechyd eu hateb:
1. Er gwaethaf pwysau Covid a’r gaeaf, pa mor hyderus yw’r Gweinidog ynghylch gwasanaethau’n ailddechrau gweithredu?
2. Beth yw’r parodrwydd ar gyfer brechiadau rhag y ffliw… beth yw’r argaeledd a’r nifer sy’n manteisio?
3. Beth mae wedi’i wneud i sicrhau gallu a gwydnwch staff – gofal cymdeithasol ac iechyd – i wrthsefyll ymosodiad gan bwysau Covid a phwysau’r gaeaf?
4. Beth mae wedi’i wneud i ddatblygu ysbytai di-Covid neu Covid-light i ddelio â’r oedi a’r o amseroedd aros?
5. Mae’r cwestiwn mwyaf tyngedfennol yn ymwneud â phrofi. Beth mae’r Gweinidog wedi’i wneud i sicrhau cyfundrefn brofi gyflym ac effeithiol sy’n gwneud y tri pheth hyn: cadw Covid allan o ysbytai a chartrefi gofal; bod yn hyblyg i ymateb i gynnydd yn y galw a meithrin gallu dros amser; gan weithio ledled Cymru, nid dim ond mewn rhai codau post?
“Byddwn wedi disgwyl i’r Gweinidog a’i blaid fod wedi cyflawni’r cynllun hwn cyn hyn – nid er gwaethaf Covid, ond oherwydd Covid – oherwydd ein bod bythefnos i mewn i’r hydref, a bydd y gaeaf arnom yn ddigon buan.
“Rwy’n gobeithio cael fy sicrhau gan ei atebion a’i Gynllun Gaeaf ar gyfer GIG Cymru, ond mae profiad y gorffennol wedi fy nysgu i ddisgwyl cael fy siomi.”