Mae Cyngor Gwynedd yn anelu i ddarparu gliniaduron neu ddyfeisiadau electronig i holl ddisgyblion y sir fel rhan o strategaeth dysgu digidol.

Bydd gliniaduron yn cael eu darparu i holl ddisgyblion ysgol Gwynedd o flwyddyn 3 i fyny, a bydd dyfeisiadau llechen yn cael eu darparu i ddisgyblion Cyfnod Sylfaen yn y blynyddoedd nesaf.

Llywodraeth Cymru sydd yn rhannol gyfrifol am gyllido’r cynllun yn ei flynyddoedd cynnar, ac mae camau cyntaf y cynllun uchelgeisiol ac arloesol eisoes wedi ei gymeradwyo gan Gabinet Cyngor Gwynedd.

Yn ôl y Cynghorydd Cemlyn Rees Williams, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Addysg, gweledigaeth Cyngor Gwynedd “ydi sicrhau bod pob un o ddisgyblion Gwynedd yn medru cyflawni ei lawn botensial.”

Pwysigrwydd technoleg yn y “normal newydd”

Esboniodd fod pawb wedi gweld budd a photenisal technoleg i yrru ein economi, a chefnogi unigolion a chymunedau yn sgil cyfnod y coronafeirws.

“Does dim amheuaeth fod y ffyrdd newydd yma o weithio a byw am ddwysáu a dod yn ‘normal newydd’ dros y blynyddoedd i ddod.

“O ganlyniad, mae’n bwysicach nag erioed fod pobol ifanc Gwynedd a staff ysgolion yn cael y cyfarpar TG sydd ei angen i ffynnu o fewn yr amgylchedd digidol newydd yma.

“Bydd darparu’r un adnoddau digidol i holl ddisgyblion yn sicrhau na fydd yr un plentyn yng Ngwynedd yn cael ei adael ar yr ochr anghywir i’r ffin ddigidol a bod gan disgyblion yr un adnoddau a chyfleoedd i wireddu eu potensial,” meddai Cemlyn Rees Williams.

Bydd y broses ddarparu yn cychwyn yn ystod 2020/21, gyda disgyblion blwyddyn 10 ac 11, a’u hathrawon, yn derbyn y cyfarpar gyntaf, cyn i’r rhaglen gael ei hymestyn i gynnwys gweddill disgyblion Gwynedd.

Rhaglen Cyngor Caerdydd

Mae cynllun tebyg wedi bod ar waith gan Gyngor Gaerdydd ers mis Mai, gyda’r cyngor yno yn darparu bron i 6,500 o ddyfeisiadau electroneg i ddisgyblion ysgol drwy Gronfa Prosiect Technoleg Addysg Llywodraeth Cymru.

Pwrpas y cynllun oedd cynnig cefnogaeth i blant oedd methu â chael mynediad i’r we, er mwyn iddynt allu parhau ag addysg ar-lein tra’r oedd yr ysgolion ynghau.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: “Mae Cyngor Caerdydd wedi datblygu amrywiaeth o ffyrdd i fynd i’r afael ag amddifadedd digidol, er mwyn i blant a phobol ifanc barhau i fanteisio ar ddysgu ar-lein, tra bod ysgolion ar gau.”

Mae Cyngor Caerdydd yn bwriadu i’r cynllun fod yn rhan o ateb hirdymor i addysgu o bell ar ôl y cyfnod clo.

Ynghyd â darparu cyfarpar i ddisgyblion, mae Cyngor Caerdydd am brynu gliniaduron ac offer digidol i holl athrawon Caerdydd, er mwyn sicrhau bod yr athrawon yn gallu cyflwyno gwersi byw, yn ddiogel ac yn fedrus.

Drwy ddarparu offer digidol i’w hathrawon, pwysleisia Cyngor Caerdydd bwysigrwydd “mynediad digidol da” i’r gweithlu wrth “symud ymlaen” tu hwnt i’r cyfnod clo.