Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cyhoeddi y bydd rhagor o ysbytai maes dros dro a gafodd eu sefydlu mewn ymateb i’r pandemig coronafeirws yn dychwelyd i’w defnydd gwreiddiol.

Cyhoeddodd y Bwrdd Iechyd fis diwethaf y byddai Ysbyty Enfys Aberystwyth ar safle Ysgol Penweddig yn cael dychwelyd i’w ddefnydd gwreiddiol er mwyn i’r ysgol uwchradd fedru ail agor fis Medi.

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda nawr yn rhoi Ysbyty Enfys Llanelli ac Ysbyty Enfys Caerfyrddin yn ôl i Gyngor Sir Caerfyrddin.

Er bod safle Llanelli yn cael ei ddatgomisiynu’n llawn, bydd rhan fach o seilwaith ysbyty Canolfan Hamdden Caerfyrddin yn cael ei gadw rhag ofn y bydd ei angen eto yn y dyfodol.

Does dim penderfyniad terfynol wedi’i wneud eto ynghylch dau ysbyty maes dros dro arall yn Llanelli, sef Ysbyty Enfys Selwyn Samuel ac Ysbyty Enfys y Scarlets.

‘Diolch’

Mae Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Gweithredol Bwrdd Iechyd Hywel Dda, wedi diolch i’r awdurdodau lleol a busnesau preifat am eu holl waith yn ymwneud â’r ysbytai maes.

“Roedd y ffordd y daeth pawb at ei gilydd i ddarparu’r ysbytai maes hyn mewn cyfnod mor fyr yn gynharach yn y flwyddyn yn anhygoel,” meddai.

“O’r dechrau, yr her fwyaf yr ydym ni a’n partneriaid wedi’i hwynebu oedd yr angen i gydbwyso iechyd a llesiant cyhoeddus ein cymunedau â’r angen i’n cymdeithas a’n heconomi ddychwelyd at fath o normalrwydd.”

“Ar yr un pryd, rhaid i ni bwysleisio nad yw’r feirws hwn wedi diflannu, a’n bod yn parhau i fod ar lefel uchel o barodrwydd er mwyn i ni allu darparu gwelyau’n gyflym ar fyr rybudd mewn sawl ardal os oes angen, yn enwedig wrth i ni agosáu at yr adeg gritigol ar ddechrau’r hydref a’r gaeaf.”

Ychwanegodd Jake Morgan, Cyfarwyddwr Cymunedau a Dirprwy Brif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin, fod “cynlluniau gweithredu cadarn ar waith os bydd eu hangen yn y dyfodol.”

Buddsoddodd Llywodraeth Cymru £166m yn sefydlu ysbytai maes yng Nghymru – mae’r rhan fwyaf wedi bod yn wag yn ystod y pandemig.