Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi cyhoeddi y bydd un o’i hystafelloedd darllen yn ailagor o fis Medi.

Daw hyn bythefnos ar ôl i Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ddweud wrth Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Senedd fod y Llyfrgell yn wynebu colli 95% o’i hincwm masnachol o ganlyniad i Covid-19.

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi bod ar gau ers mis Mawrth oherwydd y coronafeirws.

“Rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at fedru dechrau croesawu’r cyhoedd yn ôl i’r ystafell ddarllen o Medi 1 ymlaen,” meddai Pedr ap Llwyd.

“Er bod y Llyfrgell wedi parhau i fod ar agor yn ddigidol trwy gydol y cyfnod clo, rwy’n ymwybodol iawn bod nifer o’n defnyddwyr yn awyddus i fedru dychwelyd i’r adeilad i weithio.”

Eglurodd y bydd mesurau pellter cymdeithasol yn eu lle er mwyn diogelu darllenwyr, ymchwilwyr a staff.

Bydd hyn yn golygu gorfod cyfyngu ar yr oriau agor, gweithredu system bwcio ar gyfer ymwelwyr a dilyn llwybrau un ffordd trwy’r adeilad.

“Er y bydd yr amgylchiadau yn gorfod bod yn wahanol er mwyn diogelu pawb, bydd y croeso’r un mor dwymgalon ag erioed,” meddai Pedr ap Llwyd wedyn.

Mae staff diogelwch y Llyfrgell wedi bod yn gweithio ar y safle trwy gydol y cyfnod clo, a nifer yn rhagor o’r staff wedi parhau i weithio o adref.

Mae rhan fach o weithlu’r Llyfrgell wedi dechrau dychwelyd i’r adeilad ers mis Gorffennaf.

Roedd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth hefyd wedi gobeithio ailagor fis Medi, ond mae’r ganolfan wedi gorfod gohirio’r cynlluniau oherwydd “difrod sylweddol” i’r adeilad yn dilyn y glaw trwm yn Aberystwyth yr wythnos ddiwethaf.