Mae gweithwyr cyngor yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi cytuno i dderbyn codiad cyflog o 2.75% eleni.

Cyhoeddodd undeb Unsain fod ei haelodau wedi pleidleisio o blaid y codiad cyflog, a hynny er i’r undeb ddweud yn gynharach yr wythnos yma fod ei haelodau wedi gwrthod y cynnig.

Er i undeb Unsain dderbyn y cynnig, dywedon nhw fod y cynnig yn llawer is na’r hyn roedden nhw’n meddwl roedd y gweithwyr allweddol sy’n gweithio i’r cynghorau yn ei haeddu am eu “cyfraniadau eithriadol”.

“Mae gweithwyr cyngor wedi gweithio yn ddiflino i gadw cymunedau’n ddiogel a sicrhau bod gwasanaethau yn rhedeg dros y misoedd diwethaf,” meddai Jon Richards, Pennaeth Llywodraeth Leol undeb Unsain, Jon Richards.

“Bydd gwaith nawr yn dechrau ar hawliad y flwyddyn nesaf a bydd rhaid i gyflogwyr weithio gyda ni i sicrhau cyllid ychwanegol gan y Llywodraeth.

“Mae hyn er mwyn i weithwyr cyngor gael yr hyn maen nhw yn eu haeddu.”