Mae merch 15 oed wedi marw yn afon Rhymni yn Llanrhymni.

Cafodd yr heddlu eu galw am oddeutu 5.20yp ddoe (dydd Gwener, Awst 21) yn dilyn adroddiadau bod y ferch wedi mynd i’r afon.

Roedd sawl un o’r gwasanaethau brys ar y safle, gan gynnwys hofrennydd yr heddlu.

Daethpwyd o hyd i’r ferch am oddeutu 6.40 ac er i’r gwasanaethau brys geisio ei hachub, bu farw yn y fan a’r lle.