Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd yn galw am ymchwiliad cyhoeddus i’r helynt arholiadau yng Nghymru er mwyn “dysgu gwersi” yn y dyfodol.

Mae Siân Gwenllian yn galw am ymchwiliad i’r modd y gwnaeth Llywodraeth Cymru ymdrin â’r sefyllfa wrth i bron i hanner y graddau TGAU, Safon Uwch a BTEC gael eu gostwng o ganlyniad i’r drefn a gafodd ei defnyddio i gyfrifo’r canlyniadau terfynol.

Daeth cadarnhad ddechrau’r wythnos hon, yn dilyn yr helynt, y byddai asesiadau athrawon yn cael eu defnyddio yn hytrach na’r rhai a ddeilliodd o algorithm.

Ar drothwy cyhoeddi’r canlyniadau TGAU, cyhoeddodd bwrdd arholi Pearson nad oedden nhw am gyhoeddi canlyniadau BTEC am fod angen eu hailraddio.

Mae Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Cymru, eisoes wedi dweud y bydd hi’n gwneud datganiad pellach ar adolygiad annibynnol o’r helynt.

Ond yn ôl Siân Gwenllian, dim ond ymchwiliad cyhoeddus fyddai’n gwneud y tro er mwyn sicrhau tryloywder ac na fyddai adolygiad annibynnol yn “adeiladu hyder y cyhoedd yn ôl”.

‘Ymchwiliad cyhoeddus brys a llawn’

“Rwy’n galw am ymchwiliad cyhoeddus brys a llawn i’r modd yr ymdriniwyd â chanlyniadau arholiadau eleni,” meddai Siân Gwenllian.

“Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn â rhoi hyder i’r cyhoedd yna dylai’r Gweinidog Addysg gychwyn ymchwiliad cyhoeddus yn edrych i mewn i’r hyn a aeth o’i le – er mwyn paratoi’r ffordd ar gyfer newid yn y dyfodol.

“Rhaid i’r Llywodraeth bresennol a llywodraethau’r dyfodol allu dysgu gwersi o’r bennod diweddar hon o raddio cymwysterau a chanlyniadau arholiadau.

“Dechreuodd rhai o’r problemau ddod i’r amlwg yn ystod cyfarfod Pwyllgor y Senedd ddydd Mawrth.

“Ond dim ond megis dechrau ydym ni mewn gwirionedd o ran deall beth yn union aeth o’i le ac rwy’n pryderu yn fawr nad yw ‘adolygiad’ y Gweinidog yn mynd i gyflawni’r lefel o graffu cyhoeddus sydd ei angen.

“Effeithiodd hyn ar filoedd o bobl ifanc yng Nghymru. Peided â chamddeall gymaint o bryder a gafodd ei achosi ac o’r herwydd dim ond ymchwiliad cyhoeddus fydd yn ddigonol yn y pendraw.

“Byddai ymchwiliad cyhoeddus yn helpu i daro goleuni ar unrhyw fethiannau systemig y mae angen eu cywiro mewn ffordd gadarn a thryloyw, gan nodi bod y Llywodraeth wedi ymrwymo o ddifrif i ddysgu’r gwersi hyn.

“Yn y cyfamser, mae’n rhaid i’r Gweinidog weithio gyda’r proffesiwn i sicrhau system deg ar gyfer 2021.”