Mae Alexei Navalny, arweinydd gwrthblaid yn Rwsia, mewn cyflwr sefydlog ond mewn coma ar ôl cael ei drosglwyddo i’r ysbyty yn yr Almaen.
Fe fydd e’n derbyn triniaeth yn yr ysbyty yn ninas Berlin ar ôl cael ei wenwyno.
Roedd amheuaeth na fyddai’n gallu teithio o ganlyniad i’w gyflwr, ond dywed llefarydd iddo oroesi’r hediad.
Fe fydd e’n cael profion yn yr ysbyty, ond mae staff yr ysbyty yn gwrthod rhoi mwy o wybodaeth am ei gyflwr am y tro.
Cefndir
Cafodd ei gludo i’r ysbyty yn wreiddiol yn ninas Omsk yn Rwsia ddydd Iau (Awst 20).
Mae lle i gredu iddo yfed te oedd yn cynnwys gwenwyn, ac mae’r Kremlin sy’n gyfrifol am ei salwch a’r oedi cyn ei drosglwyddo i’r Almaen am driniaeth.
Fe fu’n rhaid i’w gefnogwyr drefnu awyren ar ei gyfer a phan gyrhaeddodd e’r Almaen.
Yn ôl ei gefnogwyr, roedd Llywodraeth Rwsia wedi ceisio ei atal rhag cael ei drosglwyddo fel na fyddai olion o’r gwenwyn yn ei gorff erbyn iddo dderbyn triniaeth.
Ond mae’r Kremlin yn wfftio’r awgrym hwnnw, gan ddweud mai penderfyniad meddygol oedd e.
Fe wnaeth Alexei Navalny herio’r Arlywydd Vladimir Putin yn etholiad Rwsia yn 2018, ond fe gafodd ei wahardd rhag sefyll.
Ers hynny, fe fu’n cefnogi aelodau eraill ei blaid mewn etholiadau lleol a rhanbarthol.
Dyma’r ail waith mewn blwyddyn iddo gael ei daro’n wael.
Y llynedd, cafodd ei gludo i’r ysbyty ar frys o’r carchar lle’r oedd e dan glo am ei ran mewn protestiadau, ac roedd amheuaeth mai llywodraeth y wlad oedd yn gyfrifol bryd hynny hefyd.